Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIV.] MAI, 1900. [Rhif 5. EFFEITHIAU NIWEIDIOL CHWAREUON YR OES. «jypDDEFWN fod ymarferiadau corphorol yn fuddiol, Jsta er cadw y cyfansoddiad mewn cyflwr iach a ho^n- us, ond iddynt gael eu hiawn arfer felly. Ond am yr hyn bethau a elwir yn gyffredin yn " Chwareuon yr Oes," credwn mai gwell o lawer fuasai pe na ddygasid y cyffelyb erioed i ymarferiad. Dadleuir gan lawer o'u plaid drwy honi nad oes unrhyw niwed yn y chwareu ynddo ei hun. Gall hyny i fesur fod yn wir, ond rhaid cymeryd golwg eangach na hyn ar y chwareuon dan sylw, ac edrych arnynt yn eu holl gysylltiadau, a'r ffrwythau a'u dilynant. Dywedai yr Athraw Mawr am yr hedyn mwstard, ei fod y lleiaf o'r holl hadau, ond wedi ei blanu yn y ddaear, ei fod yn tyfu i fyny yn bren mawr, ac adar yr awyr yn nythu yn ei ganghenau. Felly yn gymhariaethol y dywedwn ninnau, gall y niwed sydd mewn aml un o'r chwareuon hyn ynddynt eu hunain, ymddangos yn fychan a dibwys iawn ar y cychwyn : ond erbyn y gwreiddiant i lawr yn serchìadau y chwareuwyr, yn ogystal a'r edrychwyr, nes llwyr feddiannu bryd a meddyliau dynion mewn edmygedd brwdfrydig o honynt, fe dyf y chwareuon hyn, a ystyrir yn ddiniwed, yn brenau talgryfion, canghenog; lle y nytha, ac y deora pob aderyn aflan sydd yn llygru chwaeth a moes y genedl sydd yn codi o'n cwmpas. Mae y niweidiau a dderbynir oddi wrthynt, yn am- ry wio yn eu natnr a'u nodweddion, megis yn I. Niweidiau Corphorol.—Gymaint o ddamweiniau gofidus a gymerant le yn barhaus ar faes y Football, y Crickct, a'r Mabol gampau yn gyffredin. Rhai wedi tori eu haelodau ; eraill eu hasenau ; rhai yn cael eu hanafu