Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wk JU * Cyf. XXIV.] EBRILL, 1900. [Rhif 4. EIN CYNNADLEDD A'N CENHADAETH GARTREFOL. (Parhad o tudalen 36). YYWYRACH y dylaswn, yn fy ysgrif ddiweddaf, xt gofnodi y ffaîth ddarfod i mi, ar ol myned i Gaer- ynarfon, ddyfod o hyd i lawer o ganocdd o riíyn- au o'r Ymofynydd heb eu gwerthu ; a llwyddais i ddewis o'u plith 200 o gyfrolau cyfain, pa rai a rwymwyd ac a werthwyd oll am swllt y gyfrol, i'r gwahanol eglwysi }Tn Arfon, Dinbych, a Meirion. Ác wedi talu yn oî dwy geiniog y gyfrol am y rhwymíad oedd arnynt, rhoddwyd y gwcddill yn ennill clir i'r Drysorfa Genhadol. Parhaẅyd i ymweled yn achlysurol a'r cyfeillion yn Nghaerynarfon oddeutu unwaith yn y mis, ar ol fy ym- adawiad yn niwedd y flw}Tddyn 1870. Ac yr oedd treulion y gweinidogion a elent yno yn cael eu talu o'r Drysorfa Genhadol. Ond yn mhen ychydig' flynydd- oedd, rhoddwyd hen lofft Treffynon i fyny fel lle ym- gynnull, a chliriwyd yr hen feingciau henafol a breulyd allan o honi ; ac o hyny hyd farwolaeth }Tr hen chwaer ffyddlawn Mrs. Ann Williams, }Tmgynnullid yn ei thy hi yn y Rhuddallt-bach, a chafwyd llawer oedfa a chym- mundeb melus yno g}Td a'r hen chwiotydd anwyl (yr oedd hyny ar ol marwolaeth yr unig frawd, sef W. Evans). Yn ystod yr oedfeuon dau o'r glocb, deuai lluaws o deuluoedd parchus a clr3Tm}Tdogion yr ardal i wrando yr Efengyl, nes gorlenwi yr hen amaethdy glan- waiih o ben i ben. Mae arnaf hiraeth y mynyd hwn wrth adgofio aml i oedfa ddedwydd gafwyd yno ; a diameu genyf, os cynhaliwyd erioed wasanaeth Cristion- ogol ar Ddydd }Tr Arglwydd yn ei symlrwydd cyntefig er d}Tddiau yr apostolion,—fod y cynnulliadau yn y