Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

{i Jy * Cyf. XXIV.] MAWRTH, 1900. [Rhif 3. EIN CYNNADLEDD A'N CENHADAETH GARTREFOL. (Parhad o tudalen 20). '»OR bell ag yr wyf yn cofio, ni pharhaodd eglwys Llanfairtalhaiam ond am flwyddyn yn unig ar daflen ein Cyhoeddiadau; na'r Genhadaeth ychwaith i ddwyn treulion pregethwyr i fyned yno i'w gwasanaethu. Äc un rheswm mawr dros hyny ydoedd, ddarfod i un a fuasai yn weinidog gyda'r Hen Fedydd- wyr, ond a ddiarddelasid ganddynt, ymaelodu yno; a chael ei ddewis yn gyd-henuriad a'r diweddar Thomas Hughes, yr hwn oedd ar y pryd mewn gwth o oedran, ac yn brin o feddu y dylanwad goreu yn y lle. Aeth pethau yn mlaen yn weddol am ychydig, ac nid oedd angen am anfon pregethwyr ar draul y Genhadaeth yno ar y pryd. Ond er gofid i laweroedd, tynnwyd yr achos yn fuan i warth gan amgylchiadau y byddai yn well tynnu y llen i lawr drost}rnt. Yn haf y flwyddyn 1869, cynhaliwyd y G}^nnadledd yn Harlech ; ac yn mhlith y materion c^'ffredinol oedd i'w trafod, daeth achos y cyfeillion yn Nghaernarfon dan sylw. Yr oedd y brodyr ffyddlawn a'r pregethwjT efengylaidd Humphre}' Williams y Pant, ac Humphrey O. Humphre}rs, Masnachwr, High Street, wedi meirw er's oddeutu wyth mlynedd ; ac amryw eraill wedi meirw neu 3'madael, fel nad oedd 3'n aros o hon^'nt erb^-n h}rnj^ ond uri brawd, sef William Evans y gwehydd, yr hwn oedd yn 8oain mlwydd oed, ac yn dilyn ei alwedigaeth yn Rhostryfan, oddeutu pedair milldir o Gaerynarfon ; ac hefyd—pedair o chwiorydd, y rhai y mae eu coffadwr- iaeth a'u henwau yn anwyl genym, sef Mrs. Ann Wil- liams, Rhuddallt-bach ; Mrs. Davies y Pant, a'i chwaer