Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

>Cyf. XXIV.] CHWEFROR, 1900. [Rhif 2. EIN CYNNADLEDD A'N CENHADAETH GARTREFOL. (Parhad o tudalen 3). '"W^N ein rhifyn diweddaf, rhoddasom gopi o Benderfyn- ^JL iadau y Gynnadledd gynhaliwyd yn Nhalysarnau, Ionawr 22ain, 1850, pa rai a ddangosant mai prif nôd ac amcan y Gynnadledd hono ydoedd,—gwneuthur mwy o ymdrechion i bregethu yr Efengyl yn y cymydog- aethau o amgylch ein haddoldai, yn gystal ag eangu y cylch i bregethu yn ol fel y gwnelai achosion ac amgylchiadau ganiattau. Nid oedd hyn yn ddim amgen na'r ymdrech genadol a gymhellai y brawd Edward Dafydd yn ei lythyr at eglwys Rehoboth, Harlech. Yr oedd y cwbl i fod ar raddfa fechan o angenrheidrwydd ; etto yr oedd yr amcan a'r egwyddor yn ganmoladwy ; a gresyn na buasai yr eglwysi ar y pryd yn ddigon cryfion ì neillduo y brawd Robert Morgan, neu rhyw Frawdarall i fod yn Genhadwr yn Sir Feirionydd, yn unol ag awgrým y llythyr uchod. Hwyrach y byddai yn ddyddorol i fwyafrif ein dar- llenwyr gael ad}Tsgrif o'r Fantol-len (Balancc Shcct) gyntaf a gyhoeddwyd ar ol y Gynnadledd uchod. Dodwn lii yma air am air:— Talsarnau, Mai 28, 1851. " Anwyl Frodyr yn Harlech ;— Gan ein bod ni (y rhai mae ein henwau isod) wedi ein gosod fel goruchwylwyr ar Gymdeithas Genhadol Gartrefol y Bedyddwyr (fel y'i gelwid), yr ydym yn ystyried ei fod yn addas, er boddlonrwydd i bawb, i ni roddi çyfrif o'n goruchwyliaeth ; hyny ydywo'rCyi'rodd-