Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%a X Jy Cyf. XXIII.] TACHWEDD, 1899. [Rhif n. HAWLIAU CREFYDD AR FEDDIANAU EI PHROFFESWYR. (Parhad 0 tudalen 151). II. Hawliau Crefydd yn Gymdeithasol. Y mae i bob cyfundrefn neu gymdeithas eu rheolau neillduol, a hawlir cydymffurfiad a'r cyfryw oddiwrth yr aelodau, gan fod pob un wrth ymaelodi yn tyngu llw o ffyddlondeb i reolau ei gymdeithas. Felly hefyd y mae pob. un sydd yn cymeryd enw crefydd arno, yn gosod ei hunan dan hawliau crefydd. Dywed Paul nad ydoedd yn eiddo iddo ei hunan, ond yn eiddo Crist; yr oedd efe wedi ymdaflu gorph ac enaid at wasanaeth crefydd ; ei grefydd oedd yn llywodraethu ei holl gynlluniau a'i fwr- iadau ; hi ydoedd yn ei ddysgu a'i ysgogi i wneyd pob dyledswydd; grym ei hawliau hi oedd yn cymhell yr Apostol i bregethu y Gair, i deithio fel cenhadwr, i blanu eglwysi, ac i gadarnhau )7 cyjfryw. Ei g}rdymffurfiad llwyr a hawliau crefydd, fu yr achos iddo gael ei gar- charu, ei erlid, a'i ferthyru yn y diwedd. Mor drylwyr Ìr oedd crefydd yn cael ei hawliau ar yr Apostol! )ysgwylir yr un ufudd-dod a ffyddlondeb oddiar bob un o'i phroffeswyr. Onid h)7n ydyw ein hymrwymiad )7n ein bedydd ? Yr ydym yn y bedydd yn gosod ein hunain dan awdurdod Meistr newydd, ac hefyd o dan gyfun- drefn o reolau newyddion; a gofynir i ni fod yn ffyddlon i gydymffurfìo a'r cyfryw rai. " Cymerwch íy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd ysgafn." Crist sydd wedi llefaru yr adnod, a diameu yr hyn a olygir wrth yr iau }Tdyw, cymeryd enw Crist arnom, neu mewn geiriau eraill, c)7meiyd crefydd Crist i'n tywys a'n cyfarwyddo. Yn yr ystyr dymhorol a