Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] MEDI, 1899. [Rhif 9. SEFYDLIADAU DWYFOL PENDANT. (Parhad o tu dalen 115), f'ELLY, ufudd-dod i holl ddeddíau pendant Duw, yn ogystal ag i'w holl ddeddfau moesol, all yn unig ddwyn dyn i afael a bywyd tragwyddol.* Nid yn unigy mae anufudd-dod i sefydliadau dwyfol pendant wedi bod yn llwythog o drueni i'r teulu dynol, ond hefyd y mae ufudd-dod iddynt wedi bod yn orlawn o ddaioni i ddyn. O dan yr oruchwyliaeth Batriarch- aidd a'r un Iuddewig, yr ydym yn gweled fod y person ag ydoedd yn ufudd-hau i'r sefydliad pendant o aberthu, trwy gyflwyno ei aberth yn unol a'r apwyntiad dwyfol, yn meddu sicrwydd gair digyfeiliorn Duw, fod ei bech- odau wedi eu maddeu. Ufudd-dod i sefydliad pendant yr enwaediad, ydoedd yn rhoddi hawl i'r Israeliaid yn mreintiau y wladwriaeth. Trwy urudd-hau i sefydliad pendant yr iachawyd yr Israeliaid a frathwyd gan 31 seirff tanlìyd yn y diffaethwch. (Num. xxi). A thrwy ufudd-hau i orchymyn pendant y glanhawyd Naaman oddi-wrth ei wahan-glwyf. (2 Bren. v). Ac fel pe bai cadwraeth sefydliad pendant y Sabboth, yn cynwys ynddo ei hunan holl ddyled yr Israeliaid, neu a fyddai yn sicr o arwain i ufudd-dod i holl drefniadau a deddfau y Jehovah. Y dywed Efe wrthynt " Er hyny os dyfal- wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Sabbotli, ond sanct- eiddio y dydd Sabboth, heb wneuthur dim gwaith arno. Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Daiydd, yn marchog- aeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a'u tywysogion, gwyr Judah, a phreswylwyr Jerusalem ; a'r ddinas hon a gyfaneddir bytli. (Jeremiah xvü. 24, 25).