Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] AWST, 1899. [Rhif 8. SEFYDLIADAU DWYFOL PENDANT. (Parhad o tn dalen 100). »N awr megis ag y mae maddeuant pechodau, yn ymar- feriad o uchel-fraint Llywodraethwr gweinyddol y cyfanfyd, y mae yn rhaid fod rhyw amser neillduol yn yr hwn y mae yr Anfeidrol yn estyn y ffafr hon i'r credadyn edifeiriol. A pha amser mwy cyfaddas na phan y mae efe yn ufudd-hau gyntaf i sefydliad pendant ? Oblegid gan fod dyn trwy droseddu sefydliad o'r fath, wedi darostwng ei hun i bechod a marwolaeth, nis gall dim fod yn fwy gweddus a phriodol, na bod ufudd-dod i sefydliad cyffelyb yn ei ddwyn i fwynhad o faddeuant pechodau, ac o fywyd newydd yn Nghrist Iesu, ond íbd ganddo y rhag-anhebgorion o fiÿdd ac edifeirwch. Mae maddeuant pechodau a derbyniad i deyrnas Crist ar y ddaear, yn dibynu ar yr amodau o ffÿdd, edifeirwch, a bedydd ; ac y mae maddeuant pechodau dinasyddion y deyrnas yn dibynu ar edifeirwch a chyffesiad. " Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlawn yw efe a ehyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y'n glanhao oddi- wrth bob anghyíiawnder." Eithr mae ffydd, edifeirwch, a bedydd, ac edifeirwch a chyffes, yn derbyn eu holl heffeithiolrwydd, oddiwrth eu perthynas a'r " pob aw- durdod yn y nef ac ar y ddaear," y mae y Messiah wedi ei dderbyn, a'u perth^nas heíyd a'i werthfawr waed yr hwn sydd yn ein glanhau oddiwrth bob anwiredd. Dydd yr Arglwydd, a Swper yr Arglwydd ydynt sef- ydliadau dwyfol pendant, ac fel y cyfryw y maent yn brawfion sefydlog o ífyddlondeb dinasyddion ei deyrnas, ac i'w cadw yn rheolaidd hyd nes y daw ÿr ail-waith ar gymylau y nef. Mae Duw yn mhob goruchw}'liaeth wedi profi ffyddlondeb dyn trwy ddeddf bendant.