Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] GORPHENAF, 1899. [Rhif 7. SEFYDLIADAU DWYFOL PENDANT. (Parhad o tu dalen 87). Yr^ pE buasai Duw yn gadael tynged Adda i ddibynu ar á£p ufudd-dod i orchymyn yn gwahardd iddo ladd ei wraig, neu ar gadwraeth o unrhyw ddeddf foesol arall, gallai fod llawer o gymhellion i ufudd-dod, heb y teimíad Ueiaf o barch tuag at awdurdod ddwyfol. Eithr nid yw Duw yn euog o ffolineb ag y dywed amheuwyr iddo gyflawni, ond yn hytrach mae yn dethol neu yn neillduo gorchymyn a fyddai yn foddion i roddi perffaith brawf ar ffyddlondeb Adda. Gwisgwyd Adda gan Dduw ag arglwyddiaeth dros holl greaduriaid afresymol y ddaear, gan gynnwys pysg y moroedd ac ehediad y nefoedd ; a thra yn seìyll yn nghanol anghymarol ogoniant Eden baradwysaidd, lle yr oedd pob peth i ddeffroi ei ednryg- edd, ei ddiolchgarwch, a'i gariad, y dywed wrtho, " O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta, ond o bren gwybodaeth da a drwg na fwyta o hono; oblegid yn y dydd y bwyttei di o hono gan farw, y b^'ddi farw." Pa un a wnai Adda ai ufuddhau, ynte peidio, }'doedd yn bwnc hollol o ffyddlondeb neu anffyddlondeb. Rhodd- wyá y gorchymyn yn unig, heb unrhyw reswm dros y gwaharddiad ; ac i Adda, nis gallai unrh}-w reswm ym- ddangos ar wahan i ewyll}Ts y Deddfwr dwyfol. Gan hyn}', y cymhelliad mawr i ufudd-dod ydoedd parch i awdurdod ddw}'fol, ond nid yr unig gymhelliad. Oblegid megis ag yr oedd bywyd Adda i'w golli trwy droseddu y gwaharddiad, yn unol a'r hyn a ddywedasid, byddai ymddiriedaeth yn ngair Duw yn gymhelliad nerthol arall i ufudd-dod, ar y ddau gymhelliad hyn yr oedd yr holl waharddiad dwyfol yn gorphwys a therfynu,