Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] MAI, 1899. [Rhif 5- BEDYDDWYR YR ALBAN. Gan y Diweddar Frawd Cadben O. Humphreys, Borth, PORTHMADOG. (Parhad 0 tu dalen 51). frWEDI sylwi o honom, yn fyr, bsth oedd ac ydyw % golygiadau y Bedyddwyr Albanaidd ar brif eg- wyddorion a gwahanol ranau athrawiaeth yr Efengyl, ac ar brofiad Cristionogol,—-af yn ralaen i roddi crynodeb byr eto o'u hymarferiadau crefyddol, fel Enwad ar wahan i bawb eraill. Credant fod Eglwys Dduw yn cynnwys ei holl bobl etholedig a phrynedig Ef, yr hon sydd yn cael ei galw " Yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear "—" Cyman- fa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig, y rhai a ysgrif- enwyd yn y nefoedd,"—" priodasferch," a " gwraig yr Oen."—Y gellir galw hon yr Eglwys gyffredinol, neu anweledig, yr hon nid ymddengys yn gyflawn hyd ail- ddyfodiad ein Harglwydd—"pan ddel efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu."—Fod Eglwys weledig Crist ar y ddaear yn golygu cynulleidfa o saint a ffyddloniaid yn Nghrist, yn ol eu proffes a'u rhodiad; ac ni dderbyniant neb yn aelodau i'r eglwys hon, ond yn unig y sawl fyddont wedi gwran- daw a derbyn tystiolaeth Duw am ei Fab yn yr Efengyl —proffesu edifeirwch tu ag at Dduw a ffydd yn Nghrist; ac oddi ar broffes o'r ffydd hon, wedi ufuddhau i'r ordinhad o fedydd drwy gymeryd eu claddu gyd a Christ yn nwfr y bedydd, ac yn ganlynol, ddyfod i gyfamod eglwysig a phobl yr Arglwydd, i gyd gyfarfod yn yr un lle i addoli Duw, ac i ddal ffydd lesu, a chadw ei or- chymynion ef.—Fod yr eglwysi apostolaidd yn meddu lluosog-rif o Henuriaid, neu Esgobion, ac o Ddiaconiaid;