Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf, XXIII.] EBRILL, 1899. [Rhif 4. BEDYDDWYR YR ALBAN. Gan y Diweddar Frawd Cadben O. Humphreys, Borth, PORTHMADOG. (Parhad 0 tu dalen 36). *jXraR ol rhoddi ychydig o hanes dechreuad a chynydd Jto&s eSlwys' y Bedyddwyr yn yr Alban o dan weini- dogaeth Carmichael, McLean, H. D. Inglis, Braid- wood, ac amryw eraill, hwyrach mai dyddorol i rai íyddai rhoddi crynodeb byr o'u hegwyddorion neillduol a'u hymarferiadau crefyddol fel Enwad Cristionogol; a hyn a wnaf, gyda dymuno i'r darllenydd gofio mai cryn- odcb ydyw, a pheidio disgwyl dadganiad manylaidd o'r cyfryw. O berthynas i'w hegwyddorion, nid ydynt yn cyfeirio at unrhyw gyfundraith ddynol feí rheol anffaeledig eu fìydd. Credant fod yr Arglwydd Iesu, a'i apostolion wedi defnyddio ymadroddion tra eglur wrth ein d\^sgu pa bethau i'w credu a'u hymarferu, ac am hyny deallant Jawer o'r ysgrythyrau yn fwy llythyrenol a manwl, na'r sawl sydd yn ceisio gwneyd i grefydd Iesu gyngweddu ag arferion yr oes a helynt y byd hwn. Credant fod Iachawdwriaeth pechaduriaid euog a thruenus o Benar- glwyddiaeth Rhad Ras, ac nid "o'r hwn sydd yn ewyll- ysio," nac "o'r hwn sydd yn rhedeg."—Maiiŵswydyẃ Gwaredwr ei bobl oddiwrth eu pechodau—Y Crist, neu eneiniog Brophwyd, Offeiriad, a Brenhin ei eglwys— Mab Duw, neu y Gair a wnaethpwyd yn gn:twd,—Duw wedi ymddangos yn y cnawd—y Cyntaf-medig oddi wrth y meirw, wedi ei wneuthur yn Etif_dd, ac yn Llywodraethwr pob peth.—Mai trwy ci fywyd, ei far- wolaeth dros becbod, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r <:ysegr nefol drwy ei waed ei hun, y caíbdd efe i'w bobl