Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] CHWEFROR, 1899. [Rhif 2. BEDYDDWYR YR ALBAN. Gan y Diweddar Frawd Cad. Owen Humphreys, Borth, porthmadog. 'Y%>ICHON nad anerbyniol gan ddarllenwyr Yr Ym- Jyyì; welydd fyddai cael crynodeb byr (ni chaniata gofod ychwaneg) o hanes dechreuad y Bedydd- wyr yn yr Alban ; am mai oddiyno, mewn un ystyr, y tarddodd ein Cyfundeb ninau yn Nghymru. Mae hanes dechreuol y Cyfundeb i fesur helaeth yn gys)'lltiedig a hanes Mr. Archibald McLean yn bersonol, oblegid mai efe oedd y cyntaf i goleddu eu syniadau gwahaniaethol; a thrwy ei Iafur a'i offerynoliaeth ef yn benaf, y lledaenwyd eu hegwyddorion a'u hymarferiadau, yn yr Alban a lleoedd eraill. Gan hyny y mae yn anghenrheidiol olrhain ychydig ar ei hanes ef, er mwyn gweled pa fodd y daeth i fod yn Fedyddiwr. Y mae yn wir y bu eglwysi Bedyddiedig yn Edinburgh a Leith cyn ei ddyddiau ef; sef pan oedd milwyr Crom- wel (amryw o ba rai oeddynt Fedyddwyr proffesedig) yn cadw meddiant o'r lleoedd hyny. Ond }nnddeng}7s fod yr eglwysi hyny wedi adfeilio a diflanu yn llwyr ar ol jmiadawiad y milwyr. Bu hefyd yn Ngogledd yr Alban—yn Caithness a Sutherlandshire—ychydig o Fedyddwyr, Ile yr oedd tir- feddianydd cyfoethog yn gweinidogaethu. Ond nid ymddengys ddarfod i'w weinidogaeth ef gyrhaedd yn mhellach na'i denantiaid ef ei hun. A thsbygo] ydyw fod y rhai hyny wedi darfod cyn ams^r McLian. Yr oedd rhieni Mr. Archibald McL:an yn aelodau fifj^ddlawn o Eglwys Bresbyteraidd yr Alban ; a dygasant eu mhab i fyny mewn ardduniant i'r S^fydliad Gwlad- wriaethol hwnw o grefydd. Fodd bynag, pan ddaeth i