Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. XXIII.] IONAWR, 1899. [Rhif i- AWGRYMIADAU AR DDECHREU BLWYDDYN. clQfAN edrychwn yn ol i hanes ein bywyd yn y gor- JJP> phenol, a'i ddal yn ngwyneb ein rhwymedigaeth íbesol i Dduw yn ol addysgiadau ei Air Sanctaidd, gan roddi chwareu teg i gydwybod oleuedig lefaru wrthym,—diameu y cawn ein hunain wedi bod yn hynod ddiffygiol a chamweddus yn ystod pob rhan o'n bywyd. Nid yn unig nyni a adawsom heibio filwaith heb" ei gyflawni, yr hyn a ddylasem gyflawni ; ond hefyd cyf- lawnasom filoedd o bethau anheilwng a'r na ddylasem eu cyílawni. Rhyfedd mor fawr ydyw amynedd a daioni Duw tuag atom, er ein holl golliadau. " Nid yn ol ein pechodau y gwnaeth Efe a ni ; ac nid yn ol ein hanwireddau y talodd Efe i ni." Ac er mor ddiffrwyth y buom ar hyd y blynyddoedd aethant heibio,—wele íais trugaredd yn parhau i eiriol drosom—"Gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail. Ac os dwg efe ffrwyth, da ; onid e, gwedi h^my tor ef i lawr." A diau fodcyfiawnder yn foddlawn i'r arbediad hwn, ar sail eiriolaeth, cyhyd ag y per^- hir- amynedd Duw. Ond ai nid oes genym ninau rywbsth i'w wne}Td ? Ac onid yw ystyriaeth ddwys o'r ffeithiau uchod }7n gosod arnom rwymedigaethau adnewyddol i \middeffroad, ac i ymegn'iad Iwyrach yn ngh)rflawniad ein dyledswyddau dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd ? I bob un ystyriol, y mae gofyn y cwestiynau h^^n yn gyfystyr â'u hateb yn gadarnhaol. Y mae yn bosibl fod llawer o ddarllenwyr yr Ymwel- ydd yn dechreu blwyddyn ar nas gwelant mo'i diwedd yn y fuchedd hon. ' Bu'r llynedd farw llawer un A ninau sy'n heneiddio ;" &c.