Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyp. XXI|] RHAÜ., 1808. [Ehif 12. RUTH A NAOMI. (Parhad o iu dalcn 170./ rob<>\ ^® ^11^1 a tynodd wrthi hi. Mae yn dygwydd ysywaeth yn fynych, na bydd y teimladau goreu a ♦>c2feS^ mwyaf hapus yn ffynu rhwng y ferch yn nghyfraith a'i mam yn nghyfraith ond yr oedd yu gwbl wahanol yma, ac y mae y ffaith fod y fath gyfeillgarwch cynes rhwng Ruth a Naomi yn dweyd yn dda am y ddwy. Fe wyddai Ruth y byddai adgofion am y daith i wlad Moab ddeng mlynedd yn ol, yn llenwi meddwl Naomi druan a phrudd- der a hiracth, ac nis gallasai feddwl am adael iddi fyned wrthi ei hunan, ac felly y mae yn penderfynu myned gyda hi i'w chynorthwyo ar y daith i geisio sirioli dipyn ar ei hysbryd ar hyd y ffordd—ac i weini arni yn ei hên ddydd- iau. Y mae Ruth yn hollol barod i weithio neu gardota os byddai raid, er mwyn cynal ei mam yn nghyfraith, a dywed wrthi:—Lle yr elych di yr af fìnnau, lle y byddych di farw, y byddaf finnau farw, ac yno y'm cleddir. Er nadjjoedd Ruth ond dynes ieuangc,eto yr oedd hi|yn meddwl am farw; ac os byddai Naomi farw o'i blaen, fel yr oedd yn naturiol dysgwyi wrth gwrs amser; gan ei gadael hi yn unig yn mysg estroniaid, eto nid ydoedd Ruth yn meddwl am ddychwelyd i wlad Moab i gael ei chladdu gyda'i hên- afiaid a'i pherthynasau ond yn hytrach dymunai gael ei chladdu yn yr un bedd â Naomi. Mae y pethau hyn yn brawfion prydferth dros ben o'i ffyddiondeb a'i dianwadal- wch ac y mae crefydd Ruth yn dyfocí yn amlwg iawn i'r golwg. Yr ydym ninnau i amlygu ein crefydd raer/n dull cyffelyb trwy fod yn gywir a ffyddlon fel cyfeillion, ac )rn gartdig i'n gilydd fel perthynasau. Y mae Ruth yn bwr- iadu bwrw ei choolbren gyda pbobÌDduw, ac yr oedd wedi ffurfio meddyliau uchel am bobl Dduw oddiwrthyr engreifft-