Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXII.] TACH., 1898. [Rhdt 11. G^o Y DEUDDEG- DISGYBL. (Parhad o iu dalen 147./ SIMON Y CANAANEAD. YWEDIR wrthym gan Ddysgedigion nad yw y gair " Canaanead" a gysylltir âg enw Simon (i'w wahaniaethu oddi wrth Simon Petr,) ddim yn golygu ei fod yn ddisgynydd o hen frodorion gwlad Canaan nac ychwaith ei fod yn un o drigolion tref Cana. Ond fod y gair " Canaanead " yn tarddu o air Syriaidd, neu Galdeaidd ; gair Groeg cyfystyr â pha un, ydyw Zelotes. Gelwir Simon gan Luc yn "Simon Zelotes ;" (gwel Luc vi 15 ; Actau 1, 13.) Yn ein hiaith ni, byddai " Simon y Zelog" yn gyfystyr ; a thebygol iawn mai un o'i nodwedd- ion amlwg ydoedd, Zêl a Brwdfrydedd. Yn nyddiau y trethiant wnaed ar yr Iuddewon gan eu Gorchfygwyr cododd Judas y Galilead i fyny mewn gwrth- ryfel, gan ddysgu mai annghyfreithlawn oedd i had Abraham ymostwng dan iau estronol ; ac ychydig cyn marwolaeth Herod, fe ymunodd oddeutu chwe' mil o Phariseaid â Judas gan wrthod cydnabod awdurdod Ym- erodraeth Rhufain, a dal allan mai Duw oedd unig Frenhin yr Iuddewon. Darfu i lawer ddilyn y blaid hon, a galwyd hwynt yn " Galileaid." Ac ymddengys mai nod ac amcan mawr y blaid hon ydoedd—gwrthod talu teyrnged i Cesar, a thaflu yr iau Rufeinig oddi ar eu gwarau. A cheisiodd yr Ysgrif- enyddion a'r Phariseaid rwydo yr Arglwydd Iesu a'i gyssylltu a'r terfysgwyr hyny, pa rai oeddynt eisoes wedi dyfod i brofedigaeth. Yn y blaid hono hefyd, fe geid adran o rai mwy eithafol a phen-boeth na'r Ueill, a gelwid yr adran hon yn " Zelotiaid :" a thybia rhai mai un o'r