Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. . Cyf. XXII,] MEDI, 1898. [Rhif 9. Y DEUDDEG- DISGYBL. (Parhad o tu dalen 116./ Mathew, y Publtcan. •R oedd Mathew nid yn unig yn un o'r deuddeg ond hefyd yn un o'r pedwàr Efengylwr fel y'u gelwir. Dywedir ei fod yn fab i un o'r enw Alpheufj, a thybir ei fod yn frodor o Galilea. Publican, neu gasgîwr trethi, ydoedd wrth ei alwedigaeth. Ac y mae yn debygbl nad oedd unrhyw swydd'mor ddirmygus a honoyn ngolwg yr Iuddewon, yn neillduol felly yr ysgrifenyädion a'r Phariseaid. Teimlent gasineb perffaith at y swydd, ac at y sawl a'i cyflawnai, oblegid ystyrient dalu toll a theyrnged i'w gorchfygwyr—y Rhufeiniaid, yn ddiraddiad o'r mwyaf arnynt hwy fel cenedl o had Abraham, yr hon yr oedd Duw wedi ei rhyddfreinio, gan roddi gwlad Canaan yn etifedd- iaeth iddynt. Ac yr oedd eu gofyniad i Grist—" Ai cyíreithlawn i ni roddi teyrnged i Caesar ?" yn awgrymu Uawer iawn o deimlad eu calonau er nas meiddient ei ddadgan yn uchel. " Had Abraham ydym ni," meddent, " ni wasanaethasom ni neb erioed ; pa ham gan ,hyny yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion ?" O dan y teimladau hyn, ystyrient y dyn a ymgymerai a'r budr- waith o gasglu tollau a trethi i'r awdurdodau Rhufeinig, os byddai yn Iuddew, wedi colli pob hunanbarch, yn am- ddifad o unrhyw ronyn o wladgarwch, na pharce i'w gyd-genedl; ac yn un nas gellid ei gyfrif yn aelod o'u cymdeithas. Mewn gair, cyfrifent y publicanod fel gwe- hilion cymdeithas ; ac nid ymgymysgai yr Iuddewon â hwynt, yr oeddynt fel y gwahangleifion i fod yn ddosbarth ar eu penau eu hunain, i'r rhai nad oedd breintiau cymdeithas yn estynedig.