Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXII.] AWST, 1898. [Ehdt 8. Y DEUDDEG DTSGYBL. (Parhad o íu dalen 84./ Thomas. IS gwyddom ddim am achan na 'le genedigaeíh JÌ^SJ Thomas, yr hwn a elwir Didymus. Tybia riiai ei fod r£ỳ C yn frodor o Antiochia, er yn Iuddew o ran gwaed- oliaeth. Ni cheir ond yn unig ei enw yn rhestr y deuddep; gan y tri Efengylwr cyntaf. Ioan yn unig sydd yn rhoddi i ni fath yn y byd o fantais i wybod ychydig am nodweddion neillduol ei gymeriad fel dyn; ac megis yn ei hanes am Andreas a Phylip, y mae yr ychydig grybwyllion am dano a groniclwyd gan ei bin ysprydoledig, yn glir, manwl, a chynwysfawr, fel ag i'n galluogi i ffurfio cystal syniad am y dysgybl hwn à phe buasid wedi ysgrifenu cyfrol o'i hanes gan ysgrifenydd cyffredin. Dygir ef i'n sylw ar dri amgylchiad neillduol, yn mha rai yr ymddengys i ni fel un o duedd i edrych ar yr " ochr dywell" i bobpeth, braidd yn bruddglwyfus a myfyrgar. Un a gynyrfid yn llai gan apeîiad cyffrous at ei deimladau na chan arddangosiad syml o ffaith. Etto yn gyfaiìl fiydd- 3awn i'r Iesu; yn meddu ymlyniad gwrol wrtho, ac yn ewyllysgar i fciddio gwneuthur unrhyw beth drosto. ft Arferir yn gyffrodin ei ddynodi ef fel y "disgybl annghred- iniol". Ond credwn fod y syniad hwn yn cael ei gario lawer yn rhy bell am dano; fel y ceisiwn ddangos cyn diwedd ein hysgrif. i. Dygir Thomas i'n sylw yn loan xi, ychydig fisoedd cyn marwolaeth yr Iesu. Tra yr oed'd Lazarus yn glaf, anfonodd y chwiorydd,' Mair a Martha, genhadwr at y Gwaredwr, gan ddywedyd, "Arglwydd, y mae yr hwn sydd hoíi gennyt ti, yn glaf," gan ddisgwyl yn ddiau iddo Ef