Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. 'Oyp. XXII.] GORPHENAF, 1898. [Rhif 7. Y DEUDDEG DISGYBL. (Parhad o iu dalen 84./ Nathanael. ELWIR hwn gan rai yn Nathanaeiyâ3 Tholmai neu Bar-tholmai, a diau mai yr un ydyw a Bartholo- meus, fel y gelwir ef gan Mathew a Marc a Luc. Ioan yn unig sydd yn ei alw yn Nathanael, a thebygol ei fod efyn ei alw ar ei enw priodol, neu enw cyntaf, a'r tri Efengylwyr eraill yn ei alw ar ei gyfenw yn gyffelyb i'r modd y gelwid Petr yn Simon bar-Jona neu fab Jona. Fodd bynag fe gydnabyddir yn gyífredinol mai yr un oedd Natbanael a Bartholomeus. Brodor o Cana yn Galilea ydoedd efe a chyfaill i Phylip. Nid oes yr un o'r Efengyl- wyr yn rhoddi i ni ddim o hanes ei deulu, na'i alwedigaeth. Beth oedd ei hanes yn moreu ei oes, ei fanteision, ei am- gylchiadau, ei addysg na'i grefydd cyn dyfod at yr Iesu,— y mae'r cwbl yn anhysbys i ni. Ac er nad oes gennym unrhyw hysbysrwydd ychwaith parthed ei nodweddion neillduol fel dyn, oddiwrth ddim a gofnodir am dano tra y bu yn dilyn Crist,— etto cawn ei wir gymeriad yn cael ei nodi allan gan yr Athraw mawr, ar ei gyfarfyddiad cyntaf , ag.èf—" Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.,, Ÿmddengys mai Phylip alwodd ei sylw ef yn gyntaf at Grist—"Phylip a gafodd Nathanaeí ac a ddywedodd . mrrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifenodd Moses yn y gyfraith, à'r prophwydi, am dano, Iesu o Nazareth mab Joseph." Gwyddai Nathanael yn eithaf da am Nazareth, ac am nodweddion moesol y trigolion fel rhai nodedig o annuwiol a drygionus, a gofynai mewn syndod i Phylip,—"A ddichon dim da ddyfod o Nazareth ?" Diau coleddai am- heuaeth gonest fod yn bosibl fod y Messia a addawsai Moses a'r prophwydi wedi cael ei eni mewn lle mor