Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXII.] MEHEFIN, 1898. [Bhif 6. Y DEUDDEG- DISGYBL. (Parhad o tu dalen 67./ Phylip. Q~C RODOR o Bethsaida, "dinas Àndreas a Phetr," 'äfe) ydoedd Phylip. Ac y mae yn eithaf naturiol i ni Ç^ry gasglu eu bod yn adwaon eu gilydd yn dda, gan nad oedd Bethsaida ond dinas neu bentref bychan ar lan mor Galilea, heb unrhyw enwogrwydd yn cael ei roddi iddi ÿn y Testament Newydd amgen ha'i galw yn " ddinas Andreas a Phetr'" megis y gelwid pentref bychan Bethania yn "dref Mair a Martha." Diau y gallai fod Uawer o gyfeillgarwch yn bodoli rhwng Andreas a Phetr, a Phylip, yn moreu-eu hoes, ac iddynt gymdeithasü llawer a'u gilydd, a chyd- deithio i jerusalem ar y gwyliau Iuddewig ; fel mai prin y rhaid i neb ameu ddarfod i Phylip gael clywed ganddynt •hwy am weinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a'r Messia. Yn wir, nîs gällwn lai na chanfod cyffelyb gyfeillgarwch rhwng Andreas a Phylip, ag a fodolai rhwng Petrac Ioan ; ac ymddengys mai nid peth newydd oedd y cyfeillgarwch &wnw; eithr yn hytrach, ei fod yn bodoli er dyddtau maboed. Yn unol â thueddfryd meddwlifAndreas, fel y gwelsora. y mae yn fwy na thebyg iddo hysbysu Phylip, ei fod ef ac Ioan a Simon, wedi cael y Messia; ond nid ymddengys iddo lwyddo ar y cyntaf i'w ddwyn at yr Iesu. Y mae y cyferbyniad oedd rhwng y nodweddion meddyliol gwahan- iaethol a fodolai rhwng Andreas a Phylip. yr un mor aml wg ag a fodolai rhwng yr eiddo Petr ac Ioan. Yr oedd ffycM barod Andreas yn ei arwain i ddilyn yr Iesu ar amnaid Ioan Fedyddiwr--" Wele Oen Duw &ú." Ond am Phylip, tueddai at fod yn hwyrfrydig ei galon i gredu yn yr Arglwydd Iesu fel '* gobaith yr Israel/' ar bwys dim ar a glyws.i ,i