Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWELYDD. Cyf. XXII.] EBEILL, 1898. [Ehif 4. Y DEUDDEG DISGYBL. (Parhad o tu dalcn 46./ ANDBEaS. ,RIN y mae eisieu esgusawd dros restru Andreas yn ■h^ bedwerydd o blith y deuddeg. Rhoddodd yr Athraw §F Mawr ei hun y fìaenoriaeth i'r tri a nodwyd yn barod, sef Petr, Iago ac Ioan. Ar eu hol hwy, ni phetruswn enwi Andreas yn bedwerydd, nid yn gymaint am ei fod yn frawd i Petr, ond oblegid y lle amlwg a roddir i'w hanes fel un o ddisgyblion cyntaf ein Harglwydd. Anhawdd ydyw penderfynu pa un ai efe ynte Ioan oedd disgybl cyntaf Crist os edrychir i'r hanes a ddyry y gwahanol Efengylwyr am danynt. Ond gellir bod yn sicr mai Andreas oedd y cenhadwr cyntaf o'r deuddeg i ddwyn dynion at Grìst. Yr oedd ef ac Ioan gyda'u gilydd yn clywed Ioan Fedyddiwr yn nodi allan y Gwaredwr,—"Wele Oen Duw, &c." Ac yn y fan hwy a'i canlynasant ef. Yr Iesu a drodd, ac, yn eu canfod hwy yn ei ddilyn ef, efe a ofynodd iddynt "Beth yr ydych chwi yn ei geisio ?" A hwy a ofynasant iddo, "Athraw, pa le yr wytti yn trigo ?" Yntau a attebodd iddynt,—"Deuwch a gwelwch," Yn llawen o'r gwahoddiad, aethant gyda'r Iesu i'w gartref, lle yr aroshasant gyd ag ef am y gweddill o'r diwrnod hwnw, yn gwrandaw ei ymad- roddion ac yn yfed ei ddysgeidiaeth. Diwrnod bythgofiadwy iddynt oedd hwnw, pryd y daethant i adnabyddiaeth o'r Gwaredwr am y waith gyntaf erioed,—y croesawyd bwynt ganddo yn ei letty, ac y dangosodd iddynt elfenau amlwg ei gymeriad grasol. Aethant i mewn gyd ag ef fel dis- gyblion Ioan Fedyddiwr, ond daethant allan yn ddisgyblion Crist : aethant i mewn gyda'r Iesu i gymeryd eu dysgu, daethant allan wedi eu cymhwyso i ddysgu eraill; aethant i mewn, a phrofasant orphwysdra i'w heneidiau drwy ffydd yn y Messias,—daethant allan gan ddadgan y fendith hono, a chymell eraill at yr Ie&u i'w derbyn yr un modd.