Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ä 3S î£ /A l^ % ^S Hen GYF.-501.] HYDREF, 1908. [Cyp. Newydd.—232. PLANU GOED. R ys llawer blwyddyn yn ol, yr oedd dyn ieu» anc yn myned ar ei daith i wlad bell. Yr achos iddo adael ei wlad enedigol ydoedd am fod nawyn ac eisieu bara yno. Cymerodd i'w ganlyn i'r daith lonaid ysgrepan o íês. Pan y cymer- ai y dyn ieuanc orphwysdra, yr oedd yn tynu mesen o'r ysgrepan ac yn ei phlanu ar fìn y ffordd. Ar y dechreu y mae ei waith yn peri difyrwch mawr i'w gyfeillion, y rhai a gyd-deithient âg ef, ond fei yr oedd yn myned yn mlaen gan ddal ati i wneud hyn, y maent yn dechreu ei wawdio a digio wrtho. Un diwrnod pan oeddynt yn aros wrth rhyw graig fawr, y mae yn plygu at y ddaear ac yn planu mesen. Fel yr osdd ei gyfeillion yn beio arno am yr hyn a wnêlai, gofynent iddo paham y gwnelai hyny? Atebodd yntau gan ddyweyd, *'Fy nghyfeillion, y mae y flordd hon yn un faith a phell, heb un math o gysgod i'r rhai a deithient ar hyd-ddi. Yr wyf yn planu y mes yma er mwyn iddynt dyfu yn dderw, fel y gaüo eraill a fyddo yn teithio ar y ffordd hon gael cysgod rhag y gwres." Ar hyn y maent yn ei wawdio yn fwy, a chan na pheidia a phlanu y mês, aethant hwy yn eu blaen ar eu taith, gan ei adael ef ar ol. Teimlodd chwithdod oblegid colli ei gyfeillion, er hyny bu yn fîyddlon i'r gorchwyl a gy- merodd mewn llaw. Ni welodd gymaint o golled am ei gyfeillion oedd wedi ei adael ar y ftordd obiegid yr oedd ei waith yn cael lle mawr yn ei feddwl, ac yntau yn penderfynu ei gyflawni. Yn mhen tua mis ar ol i'r cyfeillion ei adael ar y ffordd y mae yntau yn cyrhaedd pen y daith. Tu allan —wmmi hiil„.JUJ-I..J,.L.J-----------jimmm .. i.-----------J_-.A—-.. ■■.' ■_» ._■■ ■ ■"' - U. . ■ '... g BgTgg 3BIV'-1 J--JU j -.'JU il.UA'