Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

« « « ,AIA $ & j|)YS&6DYDD y ffliggp. HknGyf.-477.] HYDREF, 1906. [Cyf. Newydd.— 278. RHODDl'R GALON I DDUW. ^CHYDIG amser yn ol, yr oeddwn yn pregethu ar foreu Sabbath i gynulleidfa Seisnig. Dyg- wyddodd fod yn oedfa galed neillduol, gymaint felly fel yr oedd yn dda iawn genyf weled diwedd y gwasanaeth. Yr oedd hyn wedi peri i mi ofni gwasanaeth yr hwyr, buasai'n dda iawn genyf gael myned gartref yn hytrach na myned i pwlpud eilwaith y diwrnod hwnw. Am ddau o'r gloch aethum i'r Ysgol Sul. Gofynodd yr arolygydd a wnawn gymeryd dosbarth o techgyn, pa rai oeddynt yn amrywio o ran oedran o ddeg i badair ar ddeg. Dywedodd wrthyf mai bechgyn lled ddrwg oeddynt, fod iddynt chwech o athrawon wedi bod mewn amser byr, a phob un yn eu rhoddi i fyny, am eu bod yn anhawdd eu trin. Wedi myned atynt darllenais y rhan gyntaf o'r Bregeth ar y Mynydd, sef y gwynfydau, a hyny heb roddi llyfr iddynt hwy. Wedi darllen nifer o adnodau, holais hwy ar gynwys y wers. Un gofyniad oedd oddiar yr adnod, "Gwyn eu byd y trugarogion, canys hwy a gânt drugaredd." Gofynais pa fodd oeddym i fod yn drugar- ogion? Atebodd un ohonynt, "pan fydd genym rywbeth extra yn eintŷ, byddwn yn anfon rhan i bobl drws nesaf." "Welldone" meddwn inau, dyna grefydd ymarferol. Y cwestiwn nesaf oedd oddiar yr adnod, 4<Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Gofynais pa fodd yr oeddem ni i fod yn bur o galon? Atebodd un mai drwy gael maddeuant o'n pechodau." "Well done, Verygoody' meddwn i, "dowch rhywun arall," *'Drwy roddi ein calot.au i Dduw," meddai bachgen tua deuddeg oed, ahyny mewn tôn ddifrifol. "Well done>" meddwn inau, "Ond yn awr, a ydych chwi wedi rhoddi eich calon-