Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3 3 YSGgDYDD Y MliflW $$ HenGyf.-404.] MAWRTH, 1905. [Cyf. Newydd.— 259. EMYNAU'R DIWYGIAD I'R PLANT. &RDDERCHOGdrefn y cadw, Ardderchog drefn yr Iawn, Gogoniant trefn y maddeu Yw maddeu beiau llawn; Mae'r Aberth mawr digonol A gaed ar Galfari, Yn pwyso pen y glorian, Yn cadw'n bywyd ni. Dyŷryn Ardudwy. Er chwerw dyfroedd Mara, A Gethsemane brudd, Er gwaethaf ei elynion, Fe gariodd Efy dydd; Dioddefodd gosbedigaeth, Gan brynu'n heddwch ni, Gogoniant byth am Geidwad, Ac angau C*alfàri. RlCHARD JONES. EM'YNAU Y DIWYGIAD. RGLWYDD grasol, dyro gymorth I weddio arnat Ti, Am achubiaeth pechaduriaid Drwy yr Iawn ar Galfari; Dyro'th Ysbryd ini'n helaeth, I glodfori'th enw glân, Fel b'o miloedd yn dylifo Mewn i lwybr Gwynfa lân. Y mae miloedd wedi disgyn, At dy draed, Waredwr cu, Miloedd eto fyddo'n dilyn, Fel eu golcher, er mor ddu; Greenfield, Abercynon. Enw'r Iesu aed yn uchel Am ei drugareddau rhad, Cludo'i glod gwnaed edyn awel Am ei ryfedd hael iachad. Collodd waed ei dyner galon Dros un euog fel myfi, Pwy, 0! pwy na'i mola'n gyson Am a wnaeth ar Galfari; Pwywyd hoelion dur i'w ddwylaw, Ac i'w draed anwylaf Un, Ac â'r waewffon fe'i gwanwyd— Iesu hawddgar, Geidwad dyn. Lewis Jones.