Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN ì;vf.—395.] MEHEFIN, 1904. [Cyf. N'ewydd..—250. Y GOLYGYDD A'R PLANT. >N i'w addoli yw Duw. 'Hanes heb ei tath yw |J) hanes Duw. Cariad yw Duw. Er ei fod yn fawr—yn íwy na'r mwyaf, eto ni raid cadw yn bell oddiwrtho. " Duw cariad yw." Cariad sydd yn ateb i blant. Beth da i blant yw tad heb ei gariad? A mam? —wel, nid mam yw heb ei chariad. Am fod ein tad a'n mam yn ein caru yr awn mor agos atynt, ac y dywedwn ein cwyn i gyd wrthynt. Byw yn bell oddiwrth ein gilydd fuasai Duw a ninau, oni buasai am èi ganad. 'Doedd y byd ddim yn barod i gredu hyn am Dduw. Ofnai eí' ac yr oedd braw arno wrth feddwl am ei Dduw. Yr oedd Duw ar ei oreu i ddysgu y byd ei fod yn ei garu. Dyna neges Iesu i'r byd. Bu yn y byd, a chyda'r byd am flynyddau, er iddo weled tod Duw yn ei garu. Mab Duw oedd Iesu, a dywedodd, "Myfi a'r Tad un ydym." Ar ol i Iesu fod yn y byd, mae'r byd yn dod i gredu ei fod yn ei garu. A ydych chwi yn methu gweled cariad Duw ambell dro? Collodd un plentyn ar ddeg eu mam dro yn ol, a dywedai rhai o honynt nad oedd ûuw yn eu caru. "Pe buasai Duw yn eu caru, ni buasent yn myned a mam oddiwrthym," meddent. Diau fod Duw yn dangos ei