Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Y ********************* ********* Hen Gyf.—378.] TACHWEDD, 1902, {Cyf. NewyM).—233. Y GOLYGYDD A'R PLANT. ^^SEDDEM dro yn ol yn pregethu mewncapel yn y wlad, j$g| yr oedd lluaws o bobl o agos ac o bell yn y cyfarfod. Gwrandawai pawb yn dda. Boddlonid ni yn y plant mewn dau beth. Defnyddient eu Hemyn-lyfrau wrth ganu, a chanent hefyd; ac edrychent a gwrandawent ar y pregeth- wr. Hoffem hyn yn y plant yn fawr oherwydd mai arfer rhai plant yn y moddion yw edrych o'u cylch—siarad â'u gilydd—cysgu —ac heb dalu fawr os dim sylw i'r pregeth- wr, na fydded eich bod chwi o nifer y rhai hyn. Dylai plant ddysgu y flordd i wrando. Mae plant y Saeson wedi ac jn dysgu hyn yn well na phlant y Cymry, mae rhai plant i'r Cymry yn well na'u gilydd hefyd. Can- fyddir fod rhai pobl fawr yn wrandawyr sâl. Plygant eu penau tua'r llawr; lled bwysant i'r dde neu i'r chwith, yn mlaen neu yn ol, fel pe baent ar lesmeirio. Cysga ambell un ohonynt hefyd. Samplau drwg i blant yw y rha» hyn. Feallai eu bod yn ddynion da, ond gwrandawyr sâl ydynt, arferwch wrando mewn dull a fo yn rho'i gair da i chwi, ac yn rho'i help i'r pregethwr, ac yn rho'iclod i'r gynulleidfa. Y meddyliwr yw'r gwrandawr. Gwaith i feddwl yw gwaith gwrandawr. Mae gan bob plentyn feddwl. Un syddyn tyfu fel y corfF, a'r goeden, a'r aderyn yw'r meddwl. Y mae modd dysgu'r meddwl felly, a hyny yn ieuanc iawn. Eich dysgu i feddwl yw gwaith yr ysg"ol ddyddiol. Eich dysgu i feddwl yw gvvaith yr ysgol Sul. Eich dysgu i feddwl yw gwaith yr aelwyd, a llyfrau, a phregethau, a darluniau. Tra yn gwrando yn y capel dylasech feddwl. Dylasech feddwl mai Duw sydd yn siarad drwy y siaradwr