Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Y WI|! Hen Gyf.—326.] MEHEFIN, 1898. Cyf. Newydd.—136. Y TRI ADEBYN. GOG. Borea da i ti Biogen. Yr ydwyt yn edrych yn go ysgafndroed a balch yn ol dy arfer y boreu hwa. tíeth sydd yn bod? Y Biogen. Halo! Ti y Gog sydd yna? Pa bryd y daethosi i'r wìad hon? Gwelaf dy fod tithau yn ol dy arfer yn ddigon swrth a phigog. Ai ni elli reoli dy dymher am dro yn well na hynyna? G. Sylwi ar dy nyth fawr oeddwn i, yr hon sydd yn ym- ddangos fel tas o wenith, neu fwdwl o wair. A sylwi oeddwn ar dy gynffon hirfain. Yr ydwyt mor falch ar dy droed, ae mor herayf ar dy aden ag erioed. 0 yn wir, yr ydwyt yn lân. B. Yr ydwyf yn lanach o gryn dipyn nag wyt ti. Gwelaf dy fod yn parhau mor afler dy wisg ag wyt o anonest dy natur. G. Á nonest a ddywedaist? Satan yn ceryddu pechod yw psth fel yna, Ti y Biogen sydd yn anonest. Nid oes tosturi na gofal genyt ti dros aderyn bach na chreadur anafus. Fe wyr y Dryw, a'r Ehedydd, a'r Fronfraith, a'r iar, fy mod yn dweyd y gwir. B. Ni ladrateais i nyth neb nac wyau neb. Wyf yn ddigon gonest, a medrus, a gweitbgar, i godi ty bach i mi fy'hun i godi fy mhlant bob bliryddyD; a byddaf yncasola pryfed afiachoddi ar gefn defaid, wyn, gwartheg, a cheífylau, rhag eu poenau, a byddaf yr harddaf o adar y coei fel y gweli. G. Âros Biogen! Aros. Ti yn codi pryfed oddiar gyrff y cieadariaid, rhag i'r creaduriaid byny gael eu poeni gan y pry- feò. Felly yn wir. Pa ud ai y pryfed ynte y Biogen sydd yn brathu ddyfnaf i'r creaduriaid hyny, mi a hoffwn wybod? Gwelais dy big yn codi gwaed o wyn a l!oi a gvrartheg oyn hyn; a da ti Biogen paid a son am dy harddwch mwyach, oblegid os wyfc yn hardd dy wisg, yr wyt yn ddigon aflan dy ysbryd i fwyta hen gioenach o gwterydd mwyaf afiach y Lladd-dy.