Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Ifllff Hen Gyf.—342.] HYDUEI, 1899. Cyf. Newydd.—152. IDRYS BAOH. ,R nos Sabbath yn Awst diweddaf fe gyhoeddid mewn rhai o gapelau Aberdar fel hyn:—" Fe fydd angladd 'ldrys bach' ddydd Mawrth nesaf am bedwar." Er fod tad a rnam Idrys bach yn barchus a phoblogaidd, eto nid oedd eisieu en henwi hwy er i luaws adnabod Idrys bach. Gwyddai ugeiniau a mwy pwy ydoedd wrth ei enw ei hun. Mab i weinidog ydoedd Idris bach, sef y Parch Mr a Mrs Rees, Salem, Aberdar. Bellach wele Idrys bach yn ei fedd, gyda'i chwaer Nettie Myfanwy, a'i frawd Oswald—y tri bychain ac anwyl hyn. Plentyn invalid oedd Idrys bach, ac o hyny yn benaf y codai ei boblogrwydd. Bu am tua 14 blynedd yn inwilid; ni fedrai gerdded, na siarad, na helpu ei hun, ond fe fedrai Idrys bach wneud nn peth yn ardderchog, ac mae'r un peth hwnw yn anhawdd hyd yn nod i bobl fawr, a'r un peth hwnw ydoedd dyoddef. Ië, dyoddefydd bach, a dyoddefydd bach mawr iawn ydoedd ídrys bach. Fe ddaeth i'r byd i ddyoddef. Dyna ydoedd cenhadaeth fawr bywyd Idrys bach— dyoddef. Dyoddefai yn ofnadwy gan ysigiadau ac ysgwydiadau a dirdyniadau Uewygon cas. Dyoddefydd diddig a thawel ac ysbrydol iawn oedd Idrys bach. Parhaodd arhyd ei boen i fod yn sylwgar a siriol odiaeth. Adwaenai ei berthynasau yn dda ac yn anwyl iawn; ac yr oedd ganddo olwg fawr ar flfryndiau y teula. Yr ydoedd o feddwl cryf, o dymher garedig, ac yn roesawgar gyda'i wên foddhaus, a'i swn îeddf awgrymiadol, a'i oago prndol iddo ei hun. Felly pregethwr fel ei dad oedd Idrys bach. ¥r oedd gaoddo gynulleidfa dda hefyd; deuai pobl o bell ac agos i'w weled a'i wrando. Yr oedd Idrys bach yn pregethu llawer i bregethwyr. Pregethai o'r un pwlpad, ac ar yr uii testnn am dros 18 blynedd. Jîi bwlpud ydoedd eigadair