Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSÖ6DYDD Y UK#Up Hbn Gyf.— 335.] ifcT-4 WKTH, 1899. Cyf. Newydd.—145. Y BYWYD TLWS. SfiRI welais bientyn bach füP. Yn gorwedd yn ei gryd, Ei lygaid gloewon iach Yn nghau o hyd o hyd; Fe wenai yn ei gwsg, Yn nghwmni engyl nef, Heb brofi loes, na chysgod croes, Mor dlws, mor dlws, oedd ef. Mi gwelais ef 'rol hyn Yn chwareu gyda'r plant, Yn neidio ar y bryn, Pysgota wrth y nant, Yn casglu'r blodeu mân, Yn dringo'r dderwen gref, Heb brofi loes na chysgod croes, Mor dlws, mor dlws, oedd ef. Mi gwelais ef yn llaw Ei anwyl fam a'i dad, Yn mynd i'r capel draw— Y capel yn y wlad, ì'stalÿfera. Ac yno gyda'r plant Y dysgai eiriau'r nef, Heb brofi locs, na'chysgod croes, Mor dlws, mor dlws, oedd ef. Mi gwelais ef ar fin Ei wely'n llon ac iach, Yn plygu ar ei lin I ddweyd ei weddi fach; Camenwai ambell air— Deallai clust y nef, Heb brofi loes na chysgod croes, Mor dlws, mor dlws, oedd ef. Mi gwelais ef 'rol hyn A gwy wdra ar ei wedd, Yn disgyn drwy y glyn I lawr at byrth y bedd, A thori ar ei glust Wnai swn yrafon gref,— Dioddefai'r loes a chariai'r groes, Oud Oh! Mor dlws oedd ef. Ben Dayies. ARTHUR R0BERT3, LONDON ÍIOUSE, LLANLLYFNI. AB ydjw ein gwrthddrych i Mr a Mrs Roberts, London _: House, L'àDÌlyfni. Mae Mr Roberts,ei dad, yo aeloi ffydd- lawn gyda'r Mfthodisfciaid Calfiaaidd; a Mrs Roberts a'i phlant yn aeîodau ffyddJawn gyda'r Annibynwyr yn Moriah. Llanliyf- ni; ac y maeofc yn gefnogwyr selog i Ddysgedyddy Plctnt, ac yn ei ddosbarthu yn y pentref. Y mae iddynt dri o feibion, ar ienangaf o'r tri ydyw gwrthddryeh ein sylw. Bu farw Hydref 28ain, 1898, yn bedair oed. Wedi ei gymeryd gan Iesu Gribt