Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Y Ufllflp Hen Gyf.— 323.] MAWBTH, 1808. Cyf. Newydd.—133. BLODWEN FACH. SY mhlentyn syml ydyw ^ft Blodwen fach, Mae yn fy nghalon heddyw Blodwen fach, Mor fyw yw'r dydd y ganwyd, Mor fyw yw'r dydd bedyddiwyd, Mor fyw yw'r dydd y claddwyd Blodwen fach. Ei mam a'i thad a fagai Blodwen f«,ch, Ei mam a'i thad a garai Blodwen fach; Ei gwallt oedd ei modrwyau, Ei llygaid oedd ei pherlau, A'i gruddiau ydoedd blodau Blodwen fach. Y teulu oll anwylent Blodwen fach, A'r plant o gylch a hoffent Blodwen fach; Mor bert cyn hir y cerddai, Mor fwyn cyn hir siaradai, Mor gyflym hefycì dysgai Blodwen fach. I'r teulu oll y chwarddai Blodwen fach, I'r teulu yr adroddai Blodwen fach; A threuliwyd oriau lawer Heb wybod colli amser I wrando cân felusber Blodwen fach. Mor felus oedd adnodau Blodwen fach, Mor felus oedd emynau Blodwen fach; *Golygir emyn adnabyddus Elfed, "Arglwydd Iesu dysg im'jferddẃ'; Ac wylwyd dagrau bywiol Gan ei rhieni duwiol Wrth wraudo gweddi hwyrol Blodwen fach. Fe garai engyl nefoedd Blodwen fach, Cysgodent holl weithredoedd Blodwen fach; Un nos o storom enbyd Daeth angel glân o'r gwynfyd, I lawr i geisio ysbryd Blodwen fach. Dywedodd ef ger gwely Blodwen fach, "Dowch gyda fi at Iesu Blodwen fach;" Y tad a'r fam wrandawent, Ac wylent a gweddient, Mwy nag erioed y carent Blodwen fach. "Af gyda'r angel," meddai Blodwen fach, Ac ' Arglwydd lesu"* ganai Blodwen fach; "Rwy'n myn'd at Iesu, dadda, Ffarwel i chwi a mammal" A dyna eiriau ola' Blodwen fach. Drwy'r nos a'r storom enbyd Blodwen fach, Yn mreichiau angel gwynfyd Aeth yn iach; I'r nefoedd at yr íesu Lle na ddaw loes na chyni Na diwedd byth ar ganu Blodwen fachî