Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Y YR IESU'N OREU tWY sydd a'i ofal fel Iesu Am yr wyn? Pwy gawn mor barod i'n dysgu, Pwy mor fwyn? Cedwir ni gan ein hanwylion Rhag cael cam; Ond mae yr Iesu'n fwy tirion Nag yw mam. Melus yw cwmni yr Iesu I blaut bach; A chaAvn bob un drwy ei garu: Dd'od yn iach. Ffyddlawn yw'r dwylaw a hoel- Nos a dydd; [iwyd, Ac yn y fynwesdrywanwyd Noddfa sydd. O! am gael byw dros yr lesu Yma'n awr! O! am fod adref i ganu Gyda'r wawr. Elfed. PA'M WYF ¥N DDIRWESWR. Ŵ^SYNYGIODD dyn wobr fecban i bobl ieuaÌDc o dan 16 oed *ܧ am y rheswm goreu yn atebiad i'r gofyniad-—PcCm yr wyf yn ddirwestwr? Rhoddwn yma ddau atebiad a dcìaeth i law. " Y rheswm drosfy mod ynddirwestwr yw, am fy mod yn gweled i'r fath sefyllfa annuwiol y mae diodydd meddwol yn arwain pobl. Darllenwn o hyd yn y papyrau dyddiol, am y gweithredoedd truenus a gyfiawnir gan ddynion yn eu medchvdod, y rhai ni chyf- lawnant ar unrhyw gyfrif pe yn sobr; megis lladd eu gilydd, plant yn lladd eu tad a'u mam, rhieni yn lladd plant. Fe ddywedodd Berry jr Crogwr, mai pobl wedi lladd eu gilydd mewn meddwdod oeddynt y mwyafrif o'r rhai a grogodd efe.—D. J." " Yr wyf yn ddirwestwr am fod y pethau meddwol yn anghyd- weddol â fy natur, ac am hyny yn afresymol i mi i'w cymeryd. Pe cynygiem bethau meddwol i blentyn bach ni chymeiasni hwynt ar un cyfrif, ac mae yn syndod fod neb yn cymeryd y pethau hyn sydd mor groes ì'w natur. Nis gall dim fod yn fwy rhesymol i ddyn na dilÿn natur a rheswm. Y niae meddwdod yn groes i natur a Hen Gyf,—319.] TACHWEDD, 1897. Cyf. Newydd.— 129. i