Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSG6DYDD Y UBI#P Hen Gyf.—315.] GOBPEENAF, 1897. Cyf. Newydd.—125. TROWCH ATAF FI. JffiROWCH eich gwynebau ataf Fi, ö2J& Yw geiriau tyner Iesu cu, Holl gyrau'r byd, trowch ato'n awr,— Eich achub gewch yn fach a mawr Fe gym'rodd Ef ein beiau mawr, Ei fywyd 'roes o'i fodd i lawr; 'Rhodd daliad llawn i'w anwyl Dad, Ac enill wnaeth i ni ryddhad. Pwy bynag ddel at Iesu da, Ei fwrw ymaith byth ni wna, Ond caiff Ei heddwch dan ei fron, A rhodio'r ddaear fyth yn llon. Mae Iesu'n noddfa gadarn, glyd, Yn ngorthrymderau chwerwa'r byd; Gofala'n dirion am Ei ŵyn, Bob amser gwrendy ar eu cwyn. Mae croesaw calon i bob rhyw, Yn awr i dd'od at Iesu gwiw; Tlawd a chyfoethog, clat' ac iach,— Bytb ni wrthoda blentyn bach. I'r alwad rasoî uf uddhewch, Trowch ato Ef, eich achub gewch; A chyd-fwynhau mewn bythol hedd Ogoniant pur Ei ddwyfol wedd. Soar, Llandli. Treforfijrch.