Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mmmm® t CfíYDYMAITfl yfl YSGOL SÜL Hen GYF.-250] TACHWEDD, 1891. [Cyf. New—35. ÿtog dtòfa ix flaní. Pregethwr.—Parch. J. D. Rees, Salem, âberdar. Testun.— 2 Chron. xxxiv. 1, 2. MAE ymddygiad dyn yn fwy pwysig na'i eiriau. Gall dyn ddweyd yn dda am danoch, a chymeryd eich bywyd ymaith ar yr un pryd. Galwai Judas gynt yr lesu, " áthraw," tra ar yr un pryd y brad- ychai ef â ehusan i ddwylaw ei elynion, y rhai a gyinerasant ymaith ei fywyd. Gall, a gwna llawer siarad yn dda am y nefoedd, " cartref cân," tra ar y ffordd i uffern, trigfa galar ac wylofain. Trwy wneud, anwyl blant, ewyllys Duw, ac nid wrth siarad, y mae i chwi a minau, a phawb, gyrhaedd y nefoedd. Trwy geisio Duw ein tadau a'n mamau, y mae i ni ei gael, ac nid trwy siarad gwag am dano, "Canys yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad, tra yr oedd efe eto yn fachgen, efe a ddechreuodd geisio Duw Dafydd ei dad." Nid tad naturiol Josiah oedd Dafydd, ond ei ragflaenydd, yn yr un modd ag yr oedd Abraham yn dad neu yn rhagflaenydd cenedl yr Iuddewon. Josiah ydoedd brenin Judah, yr hwn a ddaeth i'r orsedd tra yn bur ieuanc. "Mab wyth mlwydd oed oedd Josiah pan ddechreuodd efe deyrnasu." Sylwch, blant, nid yr hyn a ddywedodd y breniu ieuanc sydd yn cael son am dano yn adnodau y testun, ond yr hyn a wnaeth: "Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yn ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffyrdd Dafydd ei dad, ac ni ogwyddodd ar y llaw ddeheu nac ar y llaw aswy."