Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MN f Ràl CHYDYMAITH YE YSGOL SUL. Hen Gyf.— 249] HYDREF, 1891. [Cyf. New.—34. ix f hnt' Anerchiad -"GWERTH CYMERIAD." SlARADWR—GERALLT, MaENTWROG. [ IGON tebyg nad oes diru ag y ceir mwy o unoliaeth barn yn mysg dynion arno, ag ydyw "Gwerth Cymeriad" Profir hyny, nid yn unig gan ymdrechion pobl oreu y byd i'w sicrhau, ond hefyd gan haerllugrwydd rhai eraill o wahanol ysbryd—îe, y dosbarth iselaf mewn cymdeithas, i ym- ffrostio ynddo. Yn wir, y dynion mwyaf digymeriad fel rheol ydyw y rhai parotaf i son am dano, ac er nad ydyw hyny ond rhywbeth i wneud i fyny am y diffyg o hono, er ceisio twyllo eu cyd-ddynion, eto, nis gallant wneud hyny, heb ar yr un pryd dalu y warogaeth fwyaf, a'r parch mwyaf diledryw iddo—i gymeriad. Peth araíl hefyd sydd yn profi gwertli cymeriad ydyw, pan y mae dyn drwg wedi cael ei feddianu gan y cythraul o genfígen tuag at ei gymydog llwyddianus, mai ei waith cyhtaf a phenaf fydd ceisio niweidio ei gymeriad. Nid am nad oes digon o greulondeb yn ei ysbryd y mae yn atal rhag niweidio ei berson neu ddystrywio ei eiddo, ond am ei fod yn gwybod y gall gyflawni y naill fel y llall yn llawer mwy effeithiol wrth ddinystr- io ei gymeriady y bydd y lleill yn sicr o ddilyn. Y mae hyn yn ein hadgofio am hanes un gof y darllenasom unwaith am dano. Yr oedd yn ddyn gweithgar a gonest. Gan ei fod yn byw mewn pentref, yr oedd ganddo yntau ei gymydogion, ac yn mysg y rhai hyny yr oedd un neu ddau o honynt yu myned oddiamgylch mewn dull llechwraidd i ddweyd pethau maleisus am dano. Y