Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MSGEDYDD Y PLANT, Khif 204. BHAGFYR, 1887. [Cyf. XVII. ■ , ■ ■ "Y BWYD ANGENRHEIDIOL" Diae. xxx. 8. GÀN Y PARCH. M. C. MORRIS, TON. 1||] A feddylied y merched, baeh na mawr, fy mod yn ^MJ awdurdod ar gwestiwn y bwyd: ond yr wyf ar gwestiwn y bwyta. Nid wyf am iddynt feddwl fy mod am roi Hith iddynt ar goginio. Ond dymunwn ddweyd hyn, mai y coginio goreu yw darparu yr hyn mae dynion yn foddlon fwyta,—y demand ddylai benderfynu y supply yn y peth hwn, —a'r bwyta goreu yw bwyta yr hyn wna les i un. Mae dilyn y ffasiwn gyda gwisgo yn ddigon gwrthun; ond mae dilyn y ffasiwn mewn bwyta, fel y gwneir gan lawer y dyddiau hyn, yn anfaddeuadwy. Ond mae yn rhaid i mi gael testun. Yn awr, mhlant i, trowch i lyfr y Diarhebion, i'r xxx. bennod, a darllenwch yr 8fed adnod, dyma hi, "Tyn yn mhell oddiwrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â'm digonedd o fara." Fe iefarwyd y bennod,—neu ei chasglu,— gan Agur, mab Jaceh, doethwr enwog yn Israel, na wyr neb yn awr ddim am dano. Dyna i chwi weddi dlos, "Tyn yn mhell oddiwrthyf wagedd a chelwydd." Yr oedd Agur yn gweddio am i Dduw ei gadw oddiwrth falchder, ac oddiwrth yr arferiad ffiaidd sydd gan rai plant o arfer dweyd anwiredd. Gweddiwch yr un weddi, 'mhlant i, bob boreu, cyn dechreu ar eich diwrnod o ddysgu, neu chwareu, neu weithio. Dyma ran arall o'i weddi, "Na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth." Ac mae Agur yn dweyd paham mae yn gweddio fel hyn. "Os caf fi gyfoeth," meddai, "mi äf yn rhy falch; mi äf yn uniongyrchol i'r gwagedd yr oeddwn yn dymuno cael fy nghadw oddiwrtho: mi äf yn rhy falch i adnabod Duw ei hun. Mi fyddafyn gofyn yn ffroenuchel, "pwy yw yr Arglwydd?