Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhif 203. TACHWEDD, 1887. [Cyf. XVII. ARGLWYDD SPENCER ]AB ydyw Arglwydd Spencer i'r pedwerydd Iarll Spencer, yr hwn a adnabyddid yn well fel Is-iarll Althorp. Aeth ei dad i Dy y Cyffredin gyntaf fel aelod dros Northamp- ton; ond o'r flwyddyn 1806 hyd ltí34, pryd y dyrchafwyd ef i'r bendefigaeth, cynrychiolai swydd Northampton, gan gefnogi yn gyffredin holl fesurau pv< ysig y blaid Whigaidd. Bu yr Iarll presenol yn cynrychioli dosbarth deheuol swydd Northampton yn Nhy y Cyffredin am ychydig fisoedd yn 1857, a daeth i feddiant o'r teitl ar farwolaeth ei dad. Yn 1857, bu yn G-eidwad y Gwisgoedd i'r diweddar Dywysog Cydweddog, ac hefyd i Dywysog Cymru o 1862 hyd ltíS7. Pan ddaeth y blaid ítyddfrydig i awdurdod yn 1868, penodwyd ei Arglwydd- iaeth yn Argwydd-Eaglaw yr Iwerddon, a chadwodd y swydd hyd ymddiswyddiad Llywodraeth Mr. Gladstone. Y mae efe yn ei 51 mlwydd eleni. Y mae Arglwydd Spencer wedi bod