Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhef 202.] HYDREF, 18S7. [Cyf. XVII. Y GWLITH. f'R serog nef, mae llygaid teg, Ond llygaid gweiniaid 'ynt er hyn; Nis gallant wel'd y blodion chweg, Pan dan ddysgleirdeb nawnddỳdd gwyn; Ond dan deyrnasiad llaith y nos, 'Iiol caif o'r dydd ei lygad tân, Cyduna'r ser a'r lleuad dlos I syllu ar y blodau mân, Nes gwel'd eu delwau yn y gwlith Ar lawr y doldir gwyrdd a brith. Ac felly yn nystawrwydd nos, Yn ngwydd y tystion hyn i gyd, O clan y gwlith daw anian dlos, A thlysni newydd yn ei phryd; Adfywia milfil gwellt y ddol, 0 dan y milíil dafnau mân; Mae Eden fel pe'n gwenu'n ol, Yn nysglaer ddrych y gwlithyn glan ! Mae blodau byd a ser y nef, Yn cydedmygu'i dlysni ef ! Gerllaw ymgryma'r lili wen, 'Ilol cynal pwys a gwres y dydd, Bu'r gwres yn disgyn ar ei phen, A thân yr haul yn deifio"i grudd; Gwyleiddiai drwy yr hin brydnawn, Dan dremiad tad y dydd a'r gwres; A'r ddalen oedd o nodd yn llawn, O'r braidd edwinai dan y tês; Ond dan y gwlith y lüi ferth Dderbynia'n ebrwydd newydd nerth. Mewn melyn aur y briall del, A'r rhosyn mewn ysgarlad drud, A wenant ar eu gilydd fel Brenhinoedd beilchion tlysion byd; Edrychant ar yr huan têr, Fel cawr yn croesi'r eangnen;