Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhit 200.] AWST, 1887. [Cyp. XVII. FY NGHAWELL SAETHAU. GAN Y PAECH. J. MOERIS, DYFFBYN. CYFOETH DTJW, " Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoetbog o drugaredd, o herwydd ei fawr gáriad trwy yr hwn y carodd efe ni," Eph. ii. 4. jlf|}AE yr apostol yn yr adnod flaenorol wedi bod yn traethu HÜJ ac yn rhoddi y desgrifiad mwyaf manwl o'r sefyllfa druenus ac isel yr oeddym ynddi wrth naturiaeth—" yn feirw mewn camweddau a phechodau," ac yn blant digofaint. Ond y mae'r apostol, wrth ddefnyddio y gair bach " eithr " sydd yn nechreu yr adnod, yn arwain i fewn oludoedd gras I)uw ar gyfer y sefyllfa druenus hon. Y mae y gair "eithr" fel rhyw lock a geîr ar y canah, ac y mae yr apostol yma yn ei agor i ddyfroedd yr iachawdwriaeth ymarllwys o hono i godi yr hen longau mawrion sydd wedi sandio yn y Uaid y sonir am dano yn yr adnodau blaenorol,—" Eithr Duw, yr hwn sydd yn gyf- oethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad," dyna'r dyfr- oedd mawrion yn ymarllwys; " â'r hwn y carodd efe Nî," dyna'r Hongau; "'ie, pan oeddym feirw mewn camweddau," dyna'r llaid; " a'n cydgyfododd," dyna'r llongau yn d'od yn rhydd, ac yn nofio yn ddiogel i fewn i borthladd hyfryd y " nefolion leoedd yn Nghrist Iesu." " Mthr" Y mae hwn fel pyrth y wawr sydd yn cael eu hagor bob boreu i ollwng brenin y dydd allan drwyddýnt^ i oleuo ein byd tywyll ni. Mae yr apostöl wrth ei ddefoyddio fel yn agor pyrth calon fawr raslawn Duw i haul sicrwydd gobaith adferiad byd damniol a cholledig dywyuu arno: " Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o dritgaredd." Mae'r apostolj wrth ddefnyddio y gair " Eîtbr/yn gwneud yn débyg feì y gwna porter y banc, yn rhoi yr agoriad " eithr i