Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGlDYDD Y PLANT. Rhif 199.] GOTtPHENAF, 1887. [Cyf. XVII. FY HEN ATHRAW. "LLÀW Y DIWYD A GYFOETHOGA." PEN. IV. tEFAIS dderbyniad croesawus gan fy ewythr a fy moiryb, ond yr oedd àrnaf biraeth ar ol cartref, a bum rai misoedd cyn ei orchfygu. Treuliais fy oriau hamddenol yn ddifyr ìaẃn yn darllen y Geiriadur, a throi at y gwahanol adnodau yn y Beibl newydd. Yn ẁir, cymaint o wybodaeth dduwinyidol a feddaf, y pryd hwnw y cesglais hi. Mae talu sylw manwl i un Uyfr, gan ei ddarllen drwyddo a'i gofio, yn sicr o fod y dull goreu i gael golygiadau cryno ar brif athrawiaethau y Beibl. Dichon nad oes yr un llyfr, yn y Gymraeg, llawnach, eglurach, a chywirach ar dduwinyddiaeth na Gsiriadur HugJies. Ond nid fy amcan jma yw canmol llyfrau, eithr gair sydd genyf am Fy Hen Athraw. Un boreu, yn mhen tua mis, teimlais brudd-der meddwl, a hiraeth cryf am gartref unwaith eto. Yn awr ac eilwaith, byddai chwiw o deimlad felly bron fy ngorchfygu. Tua deg o'r gloch y dydd hwnw, pan wrth fy ngwaith, daeth fy ewythr a Uythyr i mi. Yr oeddwn wedi cael llythyr oddiwrth fy rhieni y diwrnod o'r blaen, ac ofnais fod rhyw ddrwg wedi dygwydd. Agorais y llytbyr yn grynedig, a chanfyddais mai nid Uawysgrif fy nhad ydoedd. Edrychais ar waelod y tu- dalen diweddaf, a gwelais Wm. Morris wrtho. Bu agos i fy nghalon neidio o'i Ue pan ddeallais mai Hythyr oddiwrth fy hen athraw ydoedd. Y mae llawer blwyddyn bellach er pàn ysgrifenwyd ef, ond y mae wedi ei ddiogelu, a dyma ei gynwysiad:— CORNER SHOP, Medi 22, 18—. Anwyl Gyfaill,— Yr oedd yn Weserus genyf wrando ar eich tad yn darllen Hythyr a dderbyniodd oddíwrthych bythefnos yn ol, yn hysbysu eich bod wedi