Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhif 198.] MEHEFIN, 1887. [Cyf. XVII. "DA YW I WK DDWYN YB IAÜ YN EI IEUENCTYD." G A N Y PAECH. J0HNJ0NES, LLANGIWC. vDDIWRTH y geiriau hyn, dywedwn,— MAI DA YW YlíGYSEGRU I GREFYDD IESU GRIST YN IEUANO. 1. Wrth wneud hyn, dechreua dyn weithio yn y boreu. Boreu yr oes yw yr adeg hawddaf gweithio gyda chrefydd. " Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctyd." Y boreu yw yr adeg y gwneir mwyaf o waith gyda chrefydd. Ieuenctyd, cyfodwch yn foreu iawn at waith crefydd Iesu Grist. Cyfod- wch yn foreu, am fod eich dydd yn fyr iawn, ac na wyddoch pa mor agos yvr nos marwolaeth. Cyfodwch yn foreu, oblegid y mae genych waith tragwyddol i'w wneuthur, a hyny mewn un diwmod.Cyfodwch yn foreu, am fod pob munyd o ddydd eich bywyd yn anmhrisiadwy werthfawr. Cyfodwch yn foreu, am y rhaid i chwi gyfodi jn foreu ddydd y farn i roddi cyfrif am foreu yr oes. Cyfodwch yn foreu i gyfarfod galwadau ac add- ewidion cyntaf Duw,—" Y sawl a'm ceisiant yn foreu, a'm cânt." Cyfodwch yn foreu i fywyd duwiol, fel na byddo i chwi gael eich gwrthod yo moreu y farn—" Yn foreu y'm ceisiant, ond ni'm cânt." Cyfodwch yn foreu, am y gallai y bydd yn rhaid i chwi farw yn moreu yr oes. Peth difrifol fyddai i chwi farw yn ieuenctyd annuwiol. 2. Wrth wneud hyn y sicrheir digon o waith da trwy'r ces. Wrth ddechreu byw yn dduwiol trwy arddel Crist yn ieuanc y sicrheir gwaith da trwy'r oes. Caru Duw, credu yn Nghrist, gwylio a gweddio, mwynhau gobaith gwynfydedig, " ymdrechu hardd deg ymdrech y fíydd, a chymeryd gafael ar y bywyd tragwyddol," fydd y gwaith a wneir trwy yr oes. Dyma waith na bydd eisieu edifarhau wedi bod gydag ef o ieusnctyd Eyd funydau pellaf henaint, ac ni bydd eisieu galaru o'i her-