Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehii- 197.] MAI, 1887. [Cyf. XVII. «CYMERWCH FY IAU ARNOCH." GAN Y PAECH. JOHN JONES, LLANGIWC. N yr ymadrodd uchod yr ydym yn cael CREFYDD IESU ÜRIST DAN Y tíYMHARIAETH 0 IAU. 1. Fél ìau gwna ddyn yn aelod cymdeithas. Iau ydoedd oíFer- yn i gyplysu neu uno ychain yn nghyd. Y mae gwir grefydd yn uno dynion â'u gilydd. Gwna ddau elyn yn ddau gyfaill, a dau estron yn ddau frawd. Y mae yn uno holl blant Duw â'u gilydd—fel y byddont oll yn un. Pan fyddo dyn dan ddylanwad y gwirionedd y mae fel Saul yn ymwasgu â'r dysg- yblion, am mai dyna deimlad naturiol crefydd Iesu Grist. Cymdeithasol ydyw ei theimlad hi—mor gymdeithasol a bod yn deulu Duw—mor gymdeithasol a bod yn gyfleus i ddwyn beichiau eu gilydd er cyflawni cyfraith Crist—mor gymdeith- asol a bod yn unfryd â'u gilydd mewn eariad, ac yn caru fel brodyr, ie, mor gymdeithasol nes gallu cynghori eu gilydd bob dydd, a gweddio dros eu gilydd. Eitheimlad hi ydyw cadw o gyf- rinach yr annuwiolion. a chyfeillachu yn ffyddlon â'r saint, gan gydfyw wrth yr un reol, rhodio yr un llwÿbrau, ymarfer â'r un dyledswyddau, meddu yr un Ysbryd Crist, gwisgo yr un wisg oreu, ymarfogi â holl arfogaeth Duw, a bod dan ddylan- wad yr un gwaed yn glanhau oddiwrth bob pechod. 2. Fel iau y mae yn rhwymo dyn at waith. Offeryn oedd yr iau i gyplysu yr ychain i weithio ac i gydweithio. Y mae crefydd Crist yn rhwymo ei meddianydd i weithio, ac i gyd- weithio âg eraill. Y mae hi yn magu ysbryd gweithio—" Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni ?—Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf cadwedjg ?—Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneutnur?" Y mae yr awydd yna am weithio yn cael ei foddloni â gwaith—digon o waith, gwaith da gwerth ei wneuthur, ac a dâl yn dda yn y cyflawniad o hono: " Llafuriwch