Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhif 196.] EBRILL, 1887. [Cyf. XVII. DYNION MAWE A HYNOD LLYFR Y BARNWYR. III. —EH WD. (YR ATHRAW A DOSBARTH O BLANT.) GAN Y PARCH. D. SfLYN EYANS, ABERDAR. YR ydyeh yn cofio, mi wn, fod y wers am heddyw yn niwedd Barn. iii-; a chyn ceisio genych ei darllen a'i hesbonio, mi ro'f fraslun i chwi o honi,,ac wrth wneud hyny hyddaf yn son am ryfel, a brwydr, a buddugoliaeth. Rho'f y cyfan yn syml o'ch blaen, a dylech wed'yn ei deall a'i hegluro rhag y blaen. Gofynwyd i eneth fechan pan ar gy- meryd ei gwyliau haf, pa un ai at ei modryb Ann ynte ei modryb Jane y carasai fyn'd am dro. "0," meddai, "at modryb Ann, am fod hòno yn rhoddi'r deisen yn ddigon isel i un fach fel fi i'w chymeryd â'm Uaw i fy hun, ond gesyd modryb Jane hi yn rhy uchel." Gwran - dewch chwithau yn awr, a dodaf yr oll a fydd genyf yn ddigon isel i fraich un bach feí chwi, Huw, i ymaflyd ynddo. Mi gyfeiriaf yn gynt- afollat FAES Y RHYFEL HWN. Cymerwch map o wlad Canaan yn eich llaw fel arfer a chraffwch, ar yr Iorddonen yn rhedeg drwy ganol y wlad o'r gogledd i'r de. Ar yr ochr chwith i chwi, ac yn uwch i fyny o gryn bellder na'r Môr Marw, canfyddwch Jericho. Hòno yw "dinas y palmwydd" a sonir am dani yn y wers; a eelwir hi felly am fod coed palmwydd o gylch y lle am tuag wyth milldir o hyd, ac am oddeutu tair o led. Symud- wch yn uwch i fyny eto, a chewch faes Ephraim yn ol yr hen fap, a Samaria yn ol y newydd; ac ar y rhandir hwnw y saif mynydd. Ephraim y sonir am dano yma. Yn perthyn i'r mynydd hwn fe geir darnau géirwon a choediog, cyffelyb 1 lethrau yn Nghymru, a'r cyf- ryw yn gyfleus a diogel i ddianc rliag perygl; ac enw y darn hwnw yma yw Seirath. Yr ydych i ddeall wrth y gair "chwarelau," nid yn hollol cloddfa geryg feí gyda ni, ond man y ceid ceryg, ac oddiwrth y rhai y llunid ac y cabolid duwiau y Moabiaid; cloddfa, o'r hon y ceid duwiàu ynte, a delwau i ymgrymu iddynt, ydyw'r ystyr oreu i'r gair. Chwi dde'wch ar draws rhydau yr Iorddonen yn y wers hefyd; ac fe geisir genych eu henwi a'u lleoli, ac mi enwaf fi un o honynt yn awr, sef rhyd Jabboc. Mi wn eich bod wedi gweîed, ac am hyny yn gwybod dyben rhyd mewn afon. Dim ond i chwi gadw eich llygad ar y rhyd a enwaif» i, ac ar y wlad bob ochr i'r afon, chwi ganfyddwch faes un