Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhif 195.] MAWRTH, 1887. [Cyf. XVII. PÜLPUD Y BOBL IEUAINC. GAN Y PARCH. B. THOMAS, GLANDWR. Galwad Abram.—Gen. xii. 1—3. ) AE y geiriau hyn yn ein cario yn ol am yn agos i bedair mil oŵynyddoedd—atddeohreuadun o'r cyfnodau pwysicaf a mwyaf dyddorol yn hanes crefydd ddatguddiedig. Prin y buasem yn eich cymhell i gymeryd taith mor bell oni bae y gwyddom y caech eich talu yn dda am ei theithio. Clywsoch yn ddiaù am yr ymdrechion egniol a wnaed o dro i dro er dyfod o hyd i darddleoedd afonydd mawrion y ddaear yma; ac am y fantais sydd wedi deilliaw o hyny i fasnach a gwareiddiad. A gawn ni eich adgofio o afon arall—yr "afon bur o ddwfr y byw- yd, dysglaer fel y grisial," sydd yn rhedeg mor gref trwy Gymru, yn swn peroriaeth yr hoD y cawsoch chwi eich geni a'ch magu, ac ar lànau yr hon y gwelwyd miloedd o bererinion Seion yn cael modd i dynu eu telynau oddiar yr helyg? A fuoch chwi ddim yn gofyn, o ba le y tarddodd? 0 ba le y daeth ein Beiblau, ein haddoldai, ein Hysgolion Sabbathol, a'n cyfarfodydd crefyddol? Mae yn sicr genym y gwyddoch eu bod wedi tarddu yn wreiddiol oddiar gariad a gras yr Anfeidr- ol; ond beth am eu tarddleoedd a'u hymddangosiad yn mysg dynion? Mae y testun yn ein harwain at un o darddleoedd yr afon. Nid ydym yn dweyd mai i Abram y datguddiodd Duw ei hunan gyntaf; ond ynddo e/ygwelwn ni yr Arglwydd yn neillduo pobl briodol iddo ei hun; ac yn Abram y gellir dweyd, gyda llawer o briodoldeb, y cafodd yr eglwys ei ffurfio gyntaf. Dywed Paul ei fod yn "dad pawb a gredant;" ac os ydym ninau yn gredinwyr, yr ydym yn blant i Abram, ac yn sicr, fe ddylem wybod rhywbeth am ein tad, a theimlo dyddordeb yn ei hanes. Mab i Terah oedd Abram; ac ond i chwi edrych i mewn i'r hanes, chwi gewch fod ei dad yn un o ddisgynyddion Sem, a'i fod y degfed o Npah, fel yr oedd Noab y degfed