Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgedydd y Plant. Ehif 112.] EBRLLL, 1880. [Cyf. X. ELISEUS. PENOD II.' fMAITH ag Elias o Horeb, yn ol gorchymyn yr Arglwydd, ac yr oedd y ífordd yn arwain, fel yr ymddengys, heibio cartréf Eliseas. Pan y daetli i gymydogaeth. Abel-meholah, ac wedi edrych o'i gwmpas gwelai ddeuddeg cwpl o ychain yn aredig mewn maes gerllaw; ac wedi holi rhywùn à ddygwyddai fod ynmyned heibio—osnad oedd yn gyfarwydd â'r gymydog- aeth eisoes—deallodd fod y maes a'r.ychain yn perthyn i Sáphat, ac mai Eliseus, ei olynydd, oedd y dyn ieuanc a ddiìynai y cwpl olaf o'r ychain. Mae'n croesi y maes, ac yn cyfeirio ei gamrau tuag ato, ac wecìi dyfod i'w ymyl. a chyn dw~eyd gair wrtho, y mae'n ymafiyd yn yr hen fantell fiewog oedd ganddo drosto, ac yn ei bwrw ar ysgwyddau Eliseus. Beth yw meddwl y àjnì Ai tybed ei fod yn ei synwyrau? Dyna y cwestiynau fuasai yn codi yn naturiol, pe gwnaethid yr un peth jrn ein gwlad a'n dyddiau ni; ond yr oedd ystyr arnlwg i ymddygiad Elias yn ngwledydd y Dwyrain. Yr oedd dwyn dillad ac esgidiau y meistr ar ei ol ef yn cael ei chyfrif yn fraint gan Mreision yr amseroedd a'r gwledydd hyny; ac felly, yr oedd gwaith Elias yn bwrw ei.fantell ar Eliseus, yn awgrym i'r di- weddaf o ddymuniad y blaenaf am ei wasaniieth. Modd bynag, nid cynt y disgynodd maritell y prophwyd ar ysgwryddau yr amaethwr ieuanc, nad ydym yn ei weled ỳn gollwng pobpeth o'i ddwylaw—yn gacìael yr ÿchain—yn cefnu ar yr aradr—ac yn rhedeg ar olEIias. ''Atol wg," ebai Eliseus, "gad i mi gusanu fy nhad a mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ol." "Dos, dychwel," ebai Elias; ''canys beth a wneuthùm i ti?" Bwrw ei fantell arno oedd y cwbl wrnaeth ef. Dynai gyd—a beth oedd Dyny? Ai tybed fod rhyw swryngyfaredd yn yr hen fantell?. . ^eu,a ellir ineddwl fod rhywbeth yn ngolwrg ac ymddangosiad yr henbrophwyda barai i'r amaethwrieuancî deimlo yn awyddus am ei ganlyn, ac i weini arnoî Nid ydym yn meddwl fod y; dylanwad nerthol a weithiai ar feddwl Eliseus y pryd hwn weài dyfod o'r naill na'r llall p'r cyfeiriadau yná. Duw Elias, yn