Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgedydd y Plant. Ehif 111.] MAWRTH, 1880. [Cyf. X. ELISEÜS. PESTOD i. fAN gyrhaeddodd Elias y Thesbiad "Horeb, mynydd Duw," yr aeth i mewn i'r ogof i letya; a phan wedi ymollwng o ran ei feddwl a'i ysbryd, daeth gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, "Beth a wnai di 3rma, Eliasí' Ni buasai yn syn o gwbl gweled ambell un yn jrr ogof; ond yr oedd yn syn iawn gweled dyn mor amlwg, mor effro, mor wrol, a chalonog ag Elias yn troi o'r neilldu, ac yn ymollwng i ddigalondid. '•'üygais fawr sel dros Arglwydd Dduw y lluoedd," ebai yntau; "o herwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a dystrywio dy allorau di, a lladd dy brophwydi â'r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes inau." Mae swn siomedigaeth ac ofn yn atebiad y prophwyd—siomedigaeth am na buasai ei ymdrechion blaenorol wedi cynyrchu effeithiau gwahanol; ac y mae'n amlwg fod ofn ac arswyd y gelynion wedi ei feddianu i raddau helaeth, yr hyn oedd yn brawf o ddiffyg ffydd yn ngallu Duw. Os na ddug ein hymdrechion y ffrwythau a ddysgwylir genym ni, na ddigalonwn; ac uwchlaw pobpetb, gwyliwn ymddigio, a throi ein cefnau ar y gwaith. Nid y ffrwyth a ddysgwylir genym ni yw y ffrwyth a rydd Duw bob amser. "Dos," ebai yr Arglwydd, ar ol argyhoeddi Elias yn drwyadl mai efe oedd yn ymddyddan âg ef yn awr, "Dos, dychwel i'th ffordd, i anialwch Damascus." Yr oedd Elias y pryd hwn wedi myn'd heb ddim i'w wneud, neu o'r hyn lleiaf, yr oedd wedi colli golwg ar ei waith; ac nid oes dim yn fwy meithrinol i'r clefyd poenus hwnw a adwaenir yn ein dyddiau ni wrth yr enw y pruddglwyf neu iselder ysbryd, na bod heb ddim i'w wneud. Fel y mae haiarn yn rhydu os na ddefnyddir ef, ac fel y mae dwfr yn ymlygru pan y peidia redeg, felly y mae meddwl dyn yn casglu rhwd, a'i ysbryd yn ymlygru, ac yn luyn'd yn afiach os na roddir iddo ddigon o waith. Os oes rhai on darìlenwyr ieuainc yn agored i'r afiechyd a nodwyd, ac yn cael eu temtio ar adegau i ymollwng i ddigalondid, a grwgnach-