Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dysgedydd y Plant. Ehip 109.] IONAWR, 1880. [Ctf. X. AMOS A'E HOELION. âGLYWSOCH chwi erìoed y chwedl am Amos a'r hoelion? Yr oedd bachgen drwg unwaith o'r enw Amos. Yr oedd ei dad yn ddyn da iawn, ond yn cael ei ofidio a'i drallodi oblegid drygioni ei fab. Yr oedd wedi ymdrechu yn ofer ei argyhoeddi o'i bechod, a'i ddarbwyllo i wneud yr hyn sydd dda. Dywed- odd ei dad wrtho un diwrnod, "Amos, dyma forthwyl a chydaid o hoelion. Yr wyf yn dymuno i chwi bob tfo y gwnewch yr hyn fyddo yn ddrwg, guro un o'r hoelion hyn i'r drws hwn." "O'r goreu, fy nhad, fe wnaf," ebai Amos. Yn mhen ychydig, daeth Amos at ei dad, a dywedodd, "Yr wyf wedi curo yr hoelion oll; y mae y bag yn wag. Deuwch a gwelwch." Aeth ei dad i'r fan, a gwelai y drws yn ddu gan hoelion. "Amos," eb efe, "a wnaethoch chwi rywbeth o'i le am bob un o'r hoelion hyn?" "Do, 'nhad," ebe'r bachgen. "0, Amos," ebe'r tad, yn ofidus, "mor alarus yw hyn i feddwl am dano! Paham na baech yn troi ac yn ceisio bod yn fachgen da?" Safai Amos yn syn-fyfyrgar am ychydig eiliadau, ac yna dywedai, " 'Nhad, mi a ymdrechaf. Gwn fy mod wedi bod yn bur ddrwg. Yr wyf yn bwriadu gofyn i Dduw fy nghynorth- wyo i ymddwyn yn well." "O'r goreu," ebe'r tad; "yn awr cymerwch y morthwyl, a phob tro y gwnewch weithred dda, neu y gwrthsafwsh un ddrwg, tynwch allan hoel, a rhoddwch hi yn y bag drachefh. Ar ol peth amser, daeth y bachgen at ei dad, a dywedodd, "Deuwch, fy nhad, a gwelwch yr hoelion yn y bag eilwaith. Tynais allan hoel am bob gweithred dda, ac yn awr y mae y cwd yn llawn drachefh." "Yr wyf yn Uawenhau ei weled, fy mab," ebe'r tad; "ond gwelwch, y rnm ôl yr hoelion yn aros." í'elly y mae gyda phechod. y mae efe bob amser yn gadael