Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYSGEDYDD Y PLANT. Rhif 101.] MAI, 1879. [Cyf. IX. 4*&tn fàwtn v Miltot," NEU, OYSGU AR EI WYLIADWRIAETH. )EL, fy ngeneth," meddai yr Arlywydd, yn ei ddull siriol, calonogol, "Beth yw eicli dynumiad mor foreu?" "Bywyd Bennie, os gwelwch yn dda, Syr," llefai Blossom. "Bennie? Pwy yw Bennie?" "Fy mrawd, Syr. Y maent yn myned i'w saethu am gysgu ar ei wyliadwriaeth." "0! ie," meddai Mr. Lincoln, tra y rhedai ei lygaid dros y papyrau oedd o'i flaen, "Yr wyf yn cofio. Cwsg marwol ydoedd hwnw. Yr ydych yn gweled, fy ngeneth, ei bod yn amser o berygl neillduol. Gallasai miloedd o fywydau gael eu colli drwy ddiofalwch ac esgeulusdra eich brawd yr amser hwnw." "Dywedodd fy nhad hyny wrthyf," meddai Blossom yn ddifrifol, "ond yr oedd Bennie mor flinedig, Syr, a Jemmy mor wael a gwan. Gwnaeth waith y ddau, ond yr oedd Jemmy yn rhy flinedig i wylio, a chymerodd Bennie ei le; ond ni wyddai ef, druan, ei fod yntau yn rhy flinedig. "Beth yw hyn yr ydych yn ei ddywedyd, fy ngeneth, nid wyf yn eich deall," meddai yr Arlywydd, a gafaelodd yn ei llaw, a phenderfynodd gael gwybod y rheswm er mwyn achub y dyn ieuanc. Aeth Blossom ato, rlíoddodd ei law yn dyner ar ei hysgwydd, a throdd ei gwyneb llwyd pryderus tuag ato. Mor dal yr edrychai, ac ef oedd Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd! Pasiodd rhyw feddwl fel yna drwy Blossom, yna aeth yn mlaen i adrodd yr ystori mewn modd syml ac eglur, a rhoddodd lythyr Bennie yn llaw Mr. Lincoln i'w ddarllen. Darllenodd ef yn ofalus, yna, gan gymeryd ei bin ysgrifenu yn ei law, ysgrifenodd ychydig íinellau yn frysiog a chanodd y gloch. "Anfonwch y nodyn hwn yn ddioed." Yna trodd yr Arlywydd at Blossom, a dywedodd:— "Ewch adref fy ngeneth, a dywedwch wrth eich tad oedd yn