Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif 451.] TACHWEDD, 1880. [Cyf. XXXVIII. JUurrhimt a §nnzBÌon. DULL IESII O BBECrETHU. "Ni lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn."—Ioan VII. 46. Dtna dystiolaeth y rhai a anfonwyd i'wjddal ef am lefaru. Cymerai ei destynau o ]yfr natur yn amìach nag 0 ysgrifen- iadau Moses, Dafydd, Solomon, na'r proffwydi. Weithiau adroddai ddamhegion, a gadawai hwy heb eu hysbrydoli a'u hegluro. Adrodda " ddameg y deng morwyn," a thyn un casgliad, sef, " Am hyny byddwcn chwithau barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn." Adrodda ddamheg- ion y dryll a gollasid a'r mab afradlon, a thyn un casgliad, sef, " Eelly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn y nef yn ngwydd angelion Duw am un pechadur a edifarhao." Ond byddai ambell waith yn dangos ysbrydolrwydd gwa- hanol ranau ei destynau. Gwna hyny mewn modd neillduol â " dameg efrau y maes " ac â " dameg yr hauwr." T mae yn dda cael ei esboniad ef, ond digalon yw pregethu ar ei ddamhegion ar ei ol, am ei fod mewn byr eiriau yn dweyd pob peth mor syml, eglur, a phwrpasol. Tynu casgb'adau fyddai y peth tebycaf i ni allu wneud. Ond j mae yn bosibl dilyn ffugyrau yn rhy bell, a thynu camgasgliadau. T mae hanes gwyrthiau Crist yn rhyfedd. Eu hamcan mawr oedd dangos ei Dduwdod ef. Ond y mae dynion wedi tynu camgasgliadau oddiwrthynt, a seilio ath- rawiaethau cyfeiliornus arnynt. T mae rhai, meddent hwy, wedi gweled " etholedigaeth yn ei gwaith " yn iachâd j claf