Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehif 447.] GORPHENAF, 1880. [Ctp. XXXVIII. GAU A GWIR I7NDEB CEISTIONOGOL. BETH YW GWIE, UîíDEB CRISTIONOGOL ? " Fel y byddout oll yn un."—Ioan xvii. 21. PENOD V. Mai ffordd Duw a sicrha. uxdeb. Myn meddiol a barn fod yn rhydd—ni éllir eu dal a'u rhwymo. Byddai yn bosibl, er yn greulawn, ddal gwenol, ei rhwymo a'i chadwyno mewn carchar, pan íýddai ei chwi- orydd a'u teuluoedd yn myned; ond ni fedr neb ddal a rhwymo y meddwl a'r farn : ni rwymwyd yr un erioed; ni all y dyn ei hun wneud. Nid yw yn cael ei llywodraethu gan ewyllys fel symud tafod neu y llaw. A phe gellid ddal meddvsl a barn, ni ellid eu carcharu. Pan oedd Paul yn y carchar yn Philippi, yr oedd ei farn a'i ysbryd yn rhydd. Ysgrifena at y Corinthiaid, a dywed, "Absenol yn y corff, eithr presenol yn yr ysbryd "—" A phan ymgynhulloch yn nghyd a'm hysbryd inau." Pan rwymid y merthyron wrth y stanciau, yr oedd eu barn yn rhydd, a'u hysbryd ar bethau Duw. Pe cauid un yn nghronbil y ddaear, diangai ei feddwl oddiyno; a phe byddai ei gorff marw yno, diangai ei ysbryd oddiyno yn fyw. Pan oedd Jonah yn ngwaelod y môr, yr oedd ei feddwl yn y deml. Ac y mae ceisio rhwymo barn mewn cyffes wladol neu enwadol yr un peth ag a fyddai ei chloi mewn carchar, neu ei gwthio i gostrel. Ý mae y rhai ydynt yn son am wneud, yn gwbl mor blentynaidd ag oedd Nicodemus pan ofynai