Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CBÜFICL. Rhif 175. TACHWEDD, 1857. Cyf. XV. Ünmỳion a ^aneston. Y GWEITHIWR DYSTAW. "Ië, rhoddaf iddynt yn fy nhý, ac o fewn fy magwyrydd, le ac enw: —rhoddaf iddynt enw tragwyddol, jr hwn ni thòrir ymailh."—Yk Aeglwydd, Esay lvi. 5. Mae yn naturiol gofyn am eiriau mor lawn o felusder a'r rhai hyn, Pwy sydd yn eu dweyd? Wel, "Eel hyn y dywed yr Arglwydd." Eu cynnwysiad yw enwogrwydd a breintiau duwiolion. Ond y mae genym ni wrthddrych neillduol i'w cyfeirio ato, sef y cyfaill teilwng Mr.- Davies, Park Plas, Ruthin; yr hwn a fu farw Medi 11, 1857, yn 70 oed. Nodwn allan yn— I. El RAGORIAETHATJ. Un diwyd a gofalus ydoedd. Dyma ddwy bfif ffynnonell ei lwyddiant tymmorol; ac ni ddylai hyn fodislaw ein sylw. Bu muriau a meusydd Plasyrhâl yn dystion o'i ddiwydrwydd a'i ofal am bum mlynedd ar hugain. Yr ysgrifen ar y mur yno yw, "Blessed are the pure in heart, for they shall see God." Ac arwyddair arall yno oedd, " Early to bed, and early to rise, make a man healthy, wealthy, and wise." Gwyddai ein cyfaill mai "llaw y diwyd a gyfoethoga," a bod pwys yn y cynghor, " Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na chbller dim." Ni adna- bum i neb yn ei bwyll heb awydd cyfoeth, ac y mae y rhan fwyaf yn ei geisio. Y máe cadw y byd yn fwy camp na'i erinill. Y mae lluoedd yn medru gwneud ceiniog, ond heb fedru ei,, thrin. Bathantyr aur, eithrnidydynt ddim cyfoethocach: ond y mae eraill, a ennillant lai, a chanddynt weddill erbyn amscr cyfyngder. Dirgelwch hyn yw gofal am bethau bychain— gwers a astudiodd Mr. Dayies yn dda. I