Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 171. GORPHENAF, 1857. Cyf. XV. Slnmỳifìn a ^anmott. DAFYDD A'I DEULU. Tybiem mai rheolau teuluaidd y brenin Dafjdd y\v y Salm hon: tröer ati eyn darllen ein sylwadau. Edrychwn ar ragor- oldeb rheolau teuluaidd Dafydd—annuwioldeb ei blant—ac ym- ofynwn am achosion yr anyhysondeb. I. Rhagoroldeb rheolau teuluaidd Daftdd. Y mae gan lawer eu rheolau teuluaidd yn argraffedig. Pan y byddo gweinidog newydd yn dyfod i fewn, darllenir hwy gan y penteulu; ac yna, gosodir hwy ar y mur yn ngolwg pawb. Efallai yr enwir oriau codi, y ddyledswydd deuluaidd, a bod yn y tŷ y nos. Gwaherddir dweyd anwiredd ac enllibio. Ac weithiau, nodir y dull y dysgwylir i'r teulu dreulio y Sabbath. Ni ryfeddem os byddai Dafydd yn darllen Salm ci. yn nghlyw pob gweinidog newydd. Efallai ei bod wedi ei hysgrifenu ar femrwn; a hwnw yn cael ei grogi mewn lleoedd amlwg yn y palas a'i amgylchoedd. Rhoddai esiampl dda íw deulu. " Rhodiaf yn mherffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ." Dyma y llinell gyntaf. Hon oedd ar ben y merarwn. Mae son am ryw "angel pen y ffordd," a rhy wbeth arall "pen y pentan." Yn sant yn yr addoldy, ac ya ellyll ar yr aelwyd. " Gwnewch chwi fel yr wyf fi y n dweyd, ac nid fel yr wyf yn gwneud," meddai un: ond nid felly Dafydd. Gwnai y rheol gyntaf iddo ei hun! Yr oedd am siarad i ddechreu â'i esiampl, wedi hyny â'i eiriau. "Ni roddaf ddim anwir ger bron fy llygaid," meddai. Ac nid meddwl rhag-