Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif 160. AWST, 1856. Cyf. XIV. gtnmỳion a l&aneston. Y CWPAN TE. y mae gwneud Uestri priddion yn hen alwedigaeth. Cyfeiria y Bibl yn aral ati. Dywed Jer. "Mi a aethum i waered i dŷ y crochenydd, ac wele ef yn gwneuthur ei waith ar droellau. A'r llestr yr hwn yr oedd efe yn ei wneuthur o glai, a ddifwyn- wyd yn llaw y crochenydd; felly efe a'i gwnaeth ef drachefn yn llestr arall, fel y gwelodd y crochenydd yn dda ei wneuthur ef." Yr oedd llestri priddion yn oes y patriarchiaid. Ceisia rhai broíi fod plant Israel, pan yn nghaethiwed yr Aifft, yn eu gwneud. Ond peth lled newydd yn Lloegr, ac yn Ewrop, yw gwneud llestri China. Un o gelfyddydau y dwyrain yw hon. Y mae genym hanes am dani yn Japan a China er dyddiau y Gwar- edwr. Ac am hyny yr ydym hyd heddyw yn galw ein Ilestri goreu yn China. Gwnaeth Asia yr oll a fedrai am ganrifoedd i gelu y gelfyddyd rhag Ewrop, a gwnaeth y Cyfandir yr oll a fedrai i'w chelu rhag Prydain. Buasai meistri nen weithwyr wrth ddatguddio y gyfrinach yn peryglu eu bywydau. Ond er hyny, gweithiodd y wybodaeth ei ffordd yn raddol o China i Portugal, a Saxony, a Germany, a Ffrainc, ac i Loegr. Yn Chelsea, ger Llundain, y gwnaed y llestri Cbina cyntaf yn y deyrnas hon, gant a hanner o flynyddau yn ol. Sefydlwyd gweithfa fawr yn Worcester gan Dr. Wale yn y flwyddyn 1751, a bu y ddinas hòno yn enwog am ei phorcehin o'r pryd hwnw hyd yr awr hon. 91 mlynedd yn ol y Uwyddodd Messrs. Boddeley a Fktcher i weithio llestri China yn Shtlton, a Han- ley, Staffordshire. Dyma y Ue y cefais i, drwy ddylanwad